Beth am fod yn ofalwr cartref?
Mae ein tîm o ofalwyr cartref yn darparu cymorth hanfodol i'r rhai yn y gymuned sydd ag anghenion gofal, gan eu galluogi i fyw yn eu cartrefi eu hunain mor annibynnol â phosibl.
Rydym yn chwilio am bobl garedig a gofalgar i ymuno â'n tîm i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Sir Gaerfyrddin.
P'un a ydych yn chwilio am yrfa newydd, yn ofalwr profiadol sy'n chwilio am her newydd neu am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau, mae bod yn ofalwr cartref yn cynnig llawer o fuddiannau a chyfleoedd datblygu rhagorol.
Darperir cymorth a hyfforddiant i roi'r offer sydd eu hangen ar ein gofalwyr i wneud gwaith gwych a bod yn help llaw i'r rhai sydd angen cymorth bob dydd.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm blaengar a llwyddiannus.