Mae ein rhaglen Prentisiaethau bellach ar agor!
Oherwydd y tarfu ar gasglu ac ailbrosesu cyfarpar rheweiddio, mae ein holl ganolfannau ailgylchu bellach wedi cyrraedd, neu dros, eu capasiti o ran storio oergelloedd, rhewgelloedd a chyfarpar oeri eraill yn ddiogel.
Dydyn ni ddim yn gallu derbyn oergelloedd, rhewgelloedd na chyfarpar oeri eraill mewn unrhyw ganolfan ailgylchu, a hynny ar unwaith, hyd nes y byddwn yn rhoi gwybod fel arall.
Mae'r mesur dros dro hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod ein safleoedd yn dal i fod yn ddiogel ac yn cydymffurfio â rheolau wrth i'r stoc bresennol gael ei chlirio.
Rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra a diolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth. Byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd casgliadau'n ailddechrau.
Ydych chi'n chwilio am her newydd neu eisiau newid gyrfa? A ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu?
Os felly, mae prentisiaethau yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol a pharatoi ar gyfer byd gwaith.
Mae gennym gyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer prentisiaethau mewn amrywiaeth eang o rolau.
Rydym yn cynnal diwrnodau agored recriwtio wyneb yn wyneb ac ar-lein lle gallwch ddarganfod mwy.
Dydd Mercher, 10 Mehefin – Ymunwch ar-lein am 6yh Gwnewch cais nawr
Dydd Iau, 11 Mehefin - Llyfrgell Llanelli
Dydd Llun, 15 Mehefin - Llyfrgell Caerfyrddin rhwng 1yp a 6yh
Dydd Mercher, 17 Mehefin – Ymunwch ar-lein rhwng 1yp a 2yp Gwnewch cais nawr
Dydd Iau, 18 Mehefin - Llyfrgell Rhydaman o 2yb - 6yh
Yn ystod y sesiynau hyn, bydd rheolwyr wrth law i gwrdd â chi a dweud mwy wrthych am y prentisiaethau sydd ar gael. Bydd cymorth hefyd ar sut i wneud cais, y ffurflen gais a dysgu sut mae prentisiaethau yn gweithio a beth mae'r cymwysterau'n arwain ato.
Yn ogystal, bydd cyfle i glywed straeon gan bobl a oedd unwaith lle rydych chi nawr a chael cyngor ganddyn nhw.
Mae prentisiaeth yn gyfle i ennill cyflog, ennill profiad ymarferol a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a chael mynediad i fanteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol trabyddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster. Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Fel prentis, mae cyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg bob dydd drwy sgyrsiau gyda chwsmeriaid a’ch tîm ac ymgymryd â’ch dysgu’n ddwyieithog.
I gael rhagor o wybodaeth am Amdani, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Gweler pa gyfleoedd sydd ar gael i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch profiad.
Gweler a oes gennym y cyfle cywir i chi
Dewch i ymuno â Chyngor Sir Caerfyrddin fel Prentis Amdani ac ennill wrth i chi ddysgu.
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i gyfle sy’n addas i chi, y cam nesaf yw cyflwyno cais. Gallwch ymgeisio am fwy nag un cyfle os dymunwch.
Gweler sut yma…Sut i wneud cais – Gweithio i ni
Ewch i'n tudalennau Proses Recriwtio i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais.







