James

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/11/2024

Amdanaf Fi

  • Bûm i'n gweithio yn Tesco am 5 mlynedd tra'n astudio TGCh yng Ngholeg Sir Gâr, Campws y Graig.
  • Ar ôl gadael y coleg, symudais wedyn i weithio yng Ngrŵp Yswiriant Admiral.
  • Yn dilyn gweithio i Admiral, penderfynais wedyn wneud cais am swydd wag Prentis TGCh, fe wnes i gais oherwydd roeddwn i eisiau profiad yn y Diwydiant TG.
  • Llwyddais i gael y swydd ac rwyf wedi bod yn gweithio yn adran TG Cyngor Sir Caerfyrddin am bron i ddwy flynedd.

Gwybodaeth am fy Mhrentisiaeth

  • Rwy'n Brentis TG ac yn gweithio i’r Tîm Cyflawni Gwasanaethau.
  • Rwy'n helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio'n iawn - cymwysiadau meddalwedd / systemau gweithredu / cefnogi ystod o ddyfeisiau / atgyweiriadau / awtomeiddio / cymorth ar y safle / desg gymorth / rhoi cyngor.
  • Yn fy rôl bresennol o ddydd i ddydd, rwy'n darparu cymorth technegol i bob cwsmer o bob adran o'r awdurdod, gan gynnwys Aelodau ac Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Rwyf yn rhoi cefnogaeth drwy weithredu, gwella a chynnal ac uwchraddio holl galedwedd a meddalwedd bwrdd gwaith yr awdurdod, gweinyddwyr cymwysiadau sy'n hanfodol i fusnes, rhwydwaith ledled y sir yr Awdurdod (Llais a Data).
  • Fy nghyngor pennaf fyddai, cyn i chi wneud cais, i edrych ar fideos YouTube a safleoedd sy'n rhoi gwybodaeth i chi am Microsoft Enterprise 365 a'i apiau yn enwedig apiau rheoli i gael gwell dealltwriaeth.


Beth ydw i'n gweithio arno nawr


Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar y prosiect cyfnewid caledwedd. Mae'r prosiect hwn yn golygu fy mod yn chwilio am yr holl hen galedwedd sydd allan mewn cylchrediad ac yn dod â nhw yn ôl i mewn i gael eu datgomisiynu. I wneud hyn weithiau mae'n rhaid i mi ymchwilio'n fanwl i ddarganfod ble y gall y ddyfais fod oherwydd weithiau nid oes defnyddiwr wedi'i neilltuo i'r ddyfais.


Beth fydda i'n gweithio arno yfory


Bydda i'n defnyddio ein system CRM (system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid) i weithredu unrhyw docynnau agored (dyma’r system sy’n cofnodi unrhyw ymholiadau sydd wedi dod i mewn gan staff fel y gallwn eu galw’n ôl i’w helpu gyda’u problem). Bydda i hefyd yn darparu dyfeisiau Windows newydd, fel eu bod yn barod i fynd allan i gleientiaid. Bydda i hefyd yn cynnal apwyntiadau gyda’n cwsmeriaid/defnyddwyr i gyfnewid eu gliniaduron.

 

Beth hoffwn i ei wneud pan fydd y brentisiaeth yn dod i ben


Rwy'n gweld fy hun yn beiriannydd profiadol iawn ymhen dwy flynedd, gyda'r uchelgais o fod naill ai'n Swyddog neu'n Swyddog Technegol.