Cyfleoedd Amdani
Ymunwch â Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaethau cyffrous gan ddechrau ym mis Medi 2026.
Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol tra byddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster. Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol mewn awdurdod lleol blaengar sydd wedi ymroi i ragoriaeth a gwelliant parhaus.
Darganfyddwch isod beth sydd gennym ar gael i gyd-fynd â'ch sgiliau a'ch profiad:
Prentis Cymorth Busnes x2

Ymunwch â'n Tîm Cymorth Busnes a Chomisiynu a chymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa sy’n rhoi boddhad ym maes gweinyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i unigolyn cryf ei gymhelliant sydd am ddatblygu fel Cynorthwyydd Cymorth Busnes.
Fel prentis, byddwch yn cael profiad ymarferol yn darparu cymorth gweinyddol hanfodol ar draws yr Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a ThaiO reoli ymholiadau a chreu adroddiadau i gefnogi prosiectau'r tîm, byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn amgylchedd proffesiynol a chefnogol gan gwblhau cymhwyster perthnasol ar yr un pryd.
Byddwch yn rhan o dîm cydweithredol, dysgwch gan gydweithwyr profiadol, ac ewch ati i greu sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Gwnewch gais nawr a dechreuwch wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Sir Gaerfyrddin.
Prentis Cymorth Busnes (Y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil)

Ydych chi’n awyddus i ymuno â thîm prysur i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu busnes? Os felly, mae hwn yn gyfle gwych i ddechrau gyrfa mewn llywodraeth leol, gan ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle wrth weithio tuag at gymhwyster perthnasol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm Cymorth Busnes prysur proffesiynol, gan ddarparu cymorth gweinyddol a chlerigol ar draws Is-adran y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil. Byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr profiadol i’ch helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn amgylchedd gwaith go iawn.
Prentis (Cyllid)

Mae ein Tîm Cyllid yn chwilio am rywun sy’n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn awyddus i ddysgu a datblygu, ac sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes cyllid.
Gyda llygad craff am fanylion a sgiliau dadansoddol da, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli arian cyhoeddus a chefnogi gwasanaethau cymunedol, gan gael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chymwysterau gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar.
Prentis Swyddog Caffael (Cynnal a Chadw Eiddo)

Dechreuwch eich gyrfa ym maes caffael, gan gefnogi sut mae’r Cyngor yn cael nwyddau a gwasanaethau ar gyfer cynnal a chadw eiddo.
Byddwch yn cael profiad ymarferol mewn rheoli cyflenwyr, prosesau contractau, rheoli risg a deddfwriaeth caffael, wrth weithio tuag at gymhwyster CIPS cydnabyddedig a helpu i sicrhau gwerth am arian a darpariaeth gwasanaethau o ansawdd uchel.
Prentis Peirianneg Sifil x 2

Dechreuwch eich gyrfa mewn peirianneg sifil, gan gefnogi dylunio a chyflawni prosiectau seilwaith sydd o fudd i gymunedau.
Cewch profiad ymarferol mewn dylunio CAD, arolygon safle, gwaith draenio a phriffyrdd, wrth gyfrannu at fentrau cynaliadwy a carbon-isel a chwblhau cymhwyster peirianneg cydnabyddedig.
Prentis (Arolygydd Gwaith Stryd)

Dechreuwch eich gyrfa mewn priffyrdd, gan gefnogi cydlynu a thrwyddedu gwaith ffyrdd a gwaith stryd.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda chontractwyr, cwmnïau cyfleustodau a’r cyhoedd, gan ennill profiad mewn deddfwriaeth, cydymffurfiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli data, wrth helpu i gadw’r rhwydwaith ffyrdd yn ddiogel ac yn effeithlon.
Prentis (Technegydd Rheoli Traffig)

Join our Traffic Management Team and help deliver schemes that improve traffic flow, parking and road safety across the County.
You’ll gain practical experience in surveys, traffic regulation orders and stakeholder engagement, supporting both planned and reactive highway activities while working towards a recognised qualification.
Cadet Cynnal a Chadw Eiddo

Ymunwch â’n Tîm Cynnal a Chadw Eiddo ac ennill profiad ymarferol o gefnogi darpariaeth gwaith cynnal a chadw ymatebol a chynlluniedig ar draws amrywiaeth o adeiladau’r Cyngor.
O gynorthwyo gydag archwiliadau safle a pharatoi cynlluniau i gefnogi cyllidebau a chynnal cofnodion, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ym maes adeiladu ac eiddo, wrth weithio tuag at Radd Sylfaen mewn Rheoli Adeiladu a Thechnoleg.
Prentis Cludiant Teithwyr

Dechreuwch eich gyrfa ym maes Cludiant Teithwyr gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin. Ydych chi’n chwilio am brentisiaeth lle gallwch weithio gyda data, pobl a gwasanaethau go iawn? Ymunwch â’n tîm Cludiant Teithwyr a helpwch i gadw cymunedau mewn cysylltiad.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol o gefnogi gwasanaethau trafnidiaeth diogel a dibynadwy, gan weithio gydag ysgolion, darparwyr trafnidiaeth a phartneriaid eraill. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn meysydd fel data, adroddiadau, contractau a systemau digidol. Bydd eich gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd, a chewch eich cefnogi wrth weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.
Rydym yn chwilio am rywun trefnus, hyblyg ac awyddus i ddysgu, sydd â diddordeb mewn data, technoleg neu wasanaethau cyhoeddus.
Mae ein rolau prentisiaethau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan o dan swyddi a gyrfaoedd.
Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif er mwyn gwneud cais ar-lein, felly gwnewch yn siŵr eich bod gennych ddigon o amser.
Bydd hyn yn caniatáu i chi:
- storio eich manylion
- cadw eich ceisiadau, mynd yn ôl atynt a pharhau â nhw
- monitro cynnydd unrhyw gais rydych wedi ei gyflwyno
- cofrestru i gael gwybod am swyddi
Diwrnod Recriwtio:
Os ydych chi'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, byddwch chi'n cael eich gwahodd i un o'n diwrnodau recriwtio. Byddwch chi'n gweld y dyddiad ar yr hysbyseb ar gyfer pob un o'r swyddi felly gwnewch nodyn o'r dyddiad.
Yn ystod y diwrnod recriwtio, byddwn ni'n ceisio darganfod mwy amdanoch chi, eich sgiliau a'ch profiadau.
Os oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn i chi ddod i'r diwrnod recriwtio fel y gallwn eich gweld chi ar eich gorau, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cysylltu â chi i wneud addasiadau cyn y diwrnod.
Beth i'w ddisgwyl yn ystod y diwrnod recriwtio ar-lein:
Byddwch chi'n cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd ar-lein sydd wedi'i gynllunio i archwilio sut rydych chi'n gweithio fel rhan o dîm ac yn gwneud penderfyniadau.
Peidiwch â phoeni am fynd ar-lein, byddwn ni'n gallu eich cefnogi chi.
Beth ddylech ddod ag ef gyda chi:
Eich hun a'ch atebion gonest!
Rydyn ni am i hyn fod yn brofiad cadarnhaol - yn gyfle gwych i chi ddangos pwy ydych chi a gweld os mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r dewis iawn i chi.
Mehefin 2026: Ceisiadau yn agor
28 Mehefin 2026: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
16-17 Gorffennaf 2026: Diwrnodau Recriwtio
7 neu 8 Awst 2026: Cyfweliad gyda'r adran
Medi 2026: Dechrau cyflogaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin
Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.

Buddiannau gweithwyr
Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.

Gweithio i ni
Gwybodaeth am sut beth yw gweithio gyda ni a'r ffordd o fyw y gallwch ei mwynhau yn Sir Gaerfyrddin.

Yr Iaith Gymraeg
Fel cyflogwr, rydyn ni'n darparu cyfleoedd amrywiol i staff ddysgu neu wella eu Cymraeg. Byddwn ni'n gweithio'n galed i'ch cefnogi i gyrraedd y lefel iaith ofynnol.

Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni ac yn diffinio pwy ydym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr.
