Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/05/2026
Datblygu Sir Gâr Gyda’n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais
Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni, felly mae angen iddyn nhw fod yn bwysig i chi
Maen nhw'n diffinio pwy ydyn ni fel sefydliad ac fel cyflogwr. Dylai popeth rydyn ni'n ei wneud gael ei arwain gan ein gwerthoedd. Maen nhw'n nodi pwy ydyn ni fel pobl, beth rydyn ni'n sefyll drosto a sut rydyn ni'n gweithredu.
Mae ein gwerthoedd yn mynd â ni ymlaen ac yn sail i sut y byddwn yn gweithio heddiw ac yn y dyfodol. Maent yn ein herio i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud yn wahanol a dylent ein hysgogi i ofyn cwestiynau am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd.
Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Maent yn ein helpu i wneud y penderfyniad iawn ac yn sail i sut rydym yn gweithio.




