Callum

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/09/2024

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn i chi fod yn brentis?


Cyn i mi ddechrau fel prentis, roeddwn i newydd orffen TGAU a dechrau yn y coleg. Yna gwnes i gais i fod yn brentis tra'r oeddwn i yn y coleg.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais i fod yn brentis?


Penderfynais wneud cais gan ei fod yn caniatáu i mi ennill y sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith ac ar yr un pryd, cofrestru ar gwrs coleg i ddatblygu fy nysgu. Yn bersonol, rwy'n ymateb yn well i weld sut mae offer a meddalwedd yn cael eu defnyddio mewn sefyllfa yn y byd go iawn, felly helpodd hyn fi i ddefnyddio'r hyn roeddwn i'n ei ddysgu yn y coleg yn gyflymach.

Pa gymhwyster ydych chi'n ei wneud/wedi ei wneud sy'n berthnasol i'r swydd hon?


Cwblheais fy mhrentisiaeth mewn Lefel 3 mewn Cyfrifiadura Cymhwysol pan oeddwn i'n brentis. Yna gwnes i HNC lefel 4 mewn Cyfrifiadura Cymhwysol ac ar ôl hynny symudais i HNC lefel 5 gyda Choleg Sir Gâr. Rwyf bellach yn gweithio i gwblhau fy ngradd mewn Seiberddiogelwch a Rhwydweithio.

Ar gyfer pa dîm / gwasanaeth ydych chi'n gweithio?


Rwy'n Swyddog Technegol sy'n gweithio i'r Tîm Cyflawni Technegol yn y Gwasanaethau TG.

Pa fath o bethau ydych chi'n eu gwneud yn eich swydd?


Rwy’n helpu i reoli a chynnal gwasanaethau fframwaith a rhwydwaith yr awdurdod. Rwy'n helpu i ofalu am ein gwasanaethau rheoli dyfeisiau, dyfeisiau rhwydwaith fel switshis, llwybryddion a phwyntiau mynediad, yn ogystal â chreu a chynnal gwasanaethau craidd a gynhelir.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod yn brentis?


Gan fod gyda fi ddiddordeb gwirioneddol mewn TG, gwnes i fwynhau gallu dysgu a chymhwyso fy sgiliau ar yr un pryd. I mi, gwnaeth hyn gyflymu fy nysgu oherwydd roeddwn i'n gallu gweld sut roedd systemau'n gweithio wrth i mi gwblhau aseiniadau arnynt yn y coleg. Roedd dechrau fel person ifanc 16 oed gyda chyflog prentis yn rhoi'r gallu i mi fforddio mynd i’r llefydd roeddwn i eisiau mynd iddyn nhw a gwneud y pethau roeddwn i eisiau eu gwneud yn fy amser hamdden.

Pa gyngor/awgrym gorau fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn brentis?


Os gallwch chi, ewch amdani. Mae'r manteision rydych chi'n eu cael wrth gyfuno dysgu a gwaith yn wych. Mae'n ffordd dda o gael y sgiliau cywir i wneud cais am swydd ar ddiwedd y brentisiaeth. Mae'r Cyngor a'm rheolwyr llinell bob amser wedi sicrhau fy mod i'n gallu parhau â'm dysgu, gan ddarparu'r cyllid a'r amser sydd ei angen i mi gwblhau fy nhasgau. Yn bersonol, rwyf wedi gallu gweithio tuag at gwblhau fy ngradd ar ôl mynd yn llawn amser o'm cwrs prentisiaeth. Efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach oherwydd eich bod yn rhan amser, ond mae'n werth ei wneud ar gyfer y profiad gwaith.

Beth hoffech chi ei wneud ar ôl i chi gwblhau eich prentisiaeth?


Rwyf wedi cwblhau fy mhrentisiaeth a chefais waith llawn amser fel Peiriannydd Maes ychydig fisoedd ar ôl i mi orffen fy lefel 3. Ers hynny, rwyf wedi cael dyrchafiad i fod yn Swyddog Cymorth Digidol a nawr i'm rôl bresennol sef Swyddog Technegol.