Cwestiynau cyffredin - Prentisiaethau
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/09/2024
Swydd â thâl yw prentisiaeth. Fel prentis, byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl rydych chi'n hyfforddi i'w gwneud, yn cwblhau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn ennill cyflog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a fydd yn eich cefnogi i ennyn profiad a dysgu am y swydd.
Mae yna 5 lefel o brentisiaethau. Mae rhain yn:
- Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaenol
- Lefel 3 - Prentisiaeth
- Lefel 4/5 - Prentisiaeth Uwch
- Lefel 6 - Prentisiaeth Gradd
Mae'r lefel yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani.
Mae modd i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ddilyn prentisiaeth, nid oes uchafswm o ran oedran ond mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani.
Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau tuag at eich hyfforddiant oherwydd byddwn ni'n talu'r costau.
Bydd hyn yn dibynnu ar ba gymhwyster rydych chi'n ei wneud. Mae yna wahanol ffyrdd i gefnogi eich dysgu ochr yn ochr â'r profiad gwaith, er enghraifft:
- Mynychu sesiynau rhithwir
- Mynychu coleg yn rhan-amser
- Mynychu canolfan hyfforddi leol lle mae modd ichi fynychu un diwrnod yr wythnos neu gyfnod ar ei hyd.
- Os ydych chi'n dilyn cwrs Gradd Prentis, byddwch chi'n mynychu'r Brifysgol neu'r Coleg
Mae hyd y cyfnod prentisiaeth yn dibynnu ar y cymhwyster rydych chi'n anelu tuag ato. Fel arfer, mae ein cyfnod prentisiaethau yn para rhwng deunaw mis a phedair blynedd.
Byddwch yn cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod gan y Cydlynydd Dysgu Cysylltiedig â Gwaith yn ogystal â'ch rheolwr a'ch cydweithwyr.
Rydym yn Gyflogwr sydd â Hyder Mewn Pobl Anabl a byddwn yn eich cefnogi chi wrth weithio fel y gallwch weithio'n hyderus yn eich rôl newydd.
Bydd unrhyw gynigion cyflogaeth yn amodol nes eich bod wedi derbyn eich canlyniadau ffurfiol.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich prentisiaeth. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin swyddfeydd ledled y sir ond y prif swyddfeydd y bydd prentisiaid wedi'u lleoli ynddynt fydd:
- Caerfyrddin
- Llanelli
- Rhydaman
Bydd eich cyflog yn amrywio yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth rydych chi am ei gwneud. Bydd angen i chi wirio'r hysbyseb swydd i weld y cyflog.
Swyddi a Gyrfaoedd
Gweithio yn Sir Gâr
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Gyrfaeodd Dan Sylw
Bywyd yn Sir Gâr
Ein proses recriwtio
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
- Cydroddoldeb ac amrywiaeth
- Cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol
- Sgiliau Iaith Gymraeg
- Diogelu a Recriwtio Mwy Diogel
Profiad Gwaith
Help i ddod o hyd i swydd
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd