Gweithiwr cymdeithasol plant
Ymunwch â'n tîm gwasanaethau plant a'n helpu i ddarparu gwasanaeth rhagorol ledled Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn angerddol dros gefnogi plant a'u teuluoedd, gan sicrhau bod ein gweithwyr cymdeithasol yn cael y cymorth sydd ei angen i fod lle mae eu hangen fwyaf – gyda theuluoedd nid ffeiliau.
Mae cymorth wedi'i dargedu, gweithio hyblyg a pholisïau eraill ar waith i'ch helpu i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac i ffynnu fel gweithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae bod yn weithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn golygu y byddwch yn ymuno â gwasanaeth sydd â sylfeini cadarn, tîm rheoli sefydlog a gweithlu ymroddedig.