Rhaglen i Raddedigion
Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf, yn ogystal â bod yn un o’r cyflogwyr mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, ac mae oddeutu 8,000 o weithwyr diwyd a thalentog yn ganolog i bopeth a wnawn. Dyluniwyd ein rhaglen raddedigion dwy-flynedd i gynnig cyfleoedd datblygu a fydd yn caniatáu ichi dyfu a datblygu fel unigolyn, gan gynnwys ymgymryd â rolau arwain. Mae ein rhaglen yn agored i bob oedran, cyn belled â bod gennych gymhwyster gradd.
Bydd pob llwybr yn cynnig cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol a chyfle i astudio a chael achrediad proffesiynol. Yn ogystal, bydd cyfle i ddysgu a datblygu trwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol, e.e. cael eich mentora gan uwch reolwyr a datblygu sgiliau rheoli a chyfathrebu.
Byddwch yn rhan o sefydliad sy’n newid drwy’r amser, ac rydym yn chwilio am bobl sy’n dangos ymrwymiad ac egni yn ogystal â bod yn hyblyg ac yn greadigol i ymuno â'n tîm.