Beth rydym yn ei gynnig i’n graddedigion?
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/05/2024
Mae ein rhaglen i raddedigion bellach ar gau ar gyfer ceisiadau newydd.
Mae ein rhaglen graddedigion dwy-flynedd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i raddedigion a'r rheini sy'n edrych i newid eu gyrfa, gan gynnwys rolau fel:
- Dadansoddwyr data
- Rheoli busnes
- Rheoli Perfformiad
- Rheoli digwyddiadau
- Cyllid
Ar ôl i chi ddechrau ar eich swydd, gallwch ddisgwyl cael eich cynnwys ym mhob agwedd ar waith eich tîm, gan gynnwys:
- Cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol
- Cyfle i astudio a chael achrediad proffesiynol
- Cyfle i ddysgu a datblygu drwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol
Er enghraifft aseiniadau yn ymwneud â phrosiect, datrys problemau, gwaith dadansoddi ac ymchwil ynghyd â chymryd rhan mewn sesiynau briffio a chyfarfodydd mewnol ac allanol. Drwy gydol y cyfnod hwn byddwch yn cael llawer o gefnogaeth gan eich rheolwr llinell a fydd yn eich helpu chi o ran eich datblygiad proffesiynol a bydd y cymorth y byddwch yn derbyn gan gydweithwyr agos hefyd yn hwyluso eich cynnydd.