Beth yw'r broses ymgeisio?
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023
Mae ein rolau i Raddedigion yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan swyddi, a bydd angen i chi wneud cais ar-lein. Gofynnir i chi gofrestru cyfrif cyn creu eich cais. Bydd hyn yn eich galluogi chi i:
- storio eich manylion
- cadw, adalw a pharhau â'ch cais/ceisiadau
- monitro statws unrhyw gais rydych wedi'i gyflwyno
- derbyn negeseuon e-bost yn rhoi gwybodaeth am swyddi gwag
Er bydd yr ystod o rolau a llwybrau cymhwyster proffesiynol yn amrywio, rydym yn disgwyl i chi ddangos y cryfderau yr ydym yn edrych amdanynt. Wrth wneud cais am un o'n rolau graddedig, mae'n bwysig eich bod chi'n gallu dangos eich sgiliau a sut maen nhw'n cysylltu â'n Fframwaith Cryfderau. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn mynd i'r afael â phob un o'r cryfderau yn ein fframwaith wrth ysgrifennu eich datganiad ategol o fewn y ffurflen gais.
Os ydych wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau asesiad ar-lein cyn mynychu Canolfan Asesu.
Fel rhan o'r broses recriwtio graddedigion, rydym yn defnyddio Fframwaith Cryfderau. Mae hyn yn disgrifio'r ymddygiadau yr ydym yn edrych amdanynt sy'n gysylltiedig â phob un o'n gwerthoedd craidd. Byddwn yn defnyddio'r cryfderau hyn wrth recriwtio a byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu'r ymddygiadau hyn ar ôl i chi ddechrau gyda ni.
Wrth wneud cais am un o'n rolau graddedig, mae'n bwysig eich bod chi'n gallu dangos eich sgiliau a sut maen nhw'n cysylltu â'n Fframwaith Cryfderau. Gallwch wneud hyn trwy gynnwys y wybodaeth yn yr adran datganiadau ategol yn y ffurflen gais.
Er mwyn sicrhau y gallwch ddangos pob cryfder mewn ffordd strwythuredig, rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio'r dull STAR wrth ysgrifennu eich datganiad ategol. Wrth ddefnyddio'r dull hwn, cofiwch y gallwch ddefnyddio enghreifftiau o'r gwaith, cartref neu wirfoddoli, felly peidiwch â chyfyngu'ch hun. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ar sut i ddefnyddio'r dull STAR yn ein canllaw 'Sut i ysgrifennu datganiad ategol'.
Drwy ddefnyddio'r dull STAR, bydd hyn yn rhoi trosolwg clir i ni o'ch cryfderau a'ch sgiliau:
- Sefyllfa - Disgrifio sefyllfa neu broblem;
- Tasg - Tynnu sylw at y dasg y bu'n rhaid i chi ei chyflawni;
- Gweithredu (Action) - Egluro pa gamau a gymerwyd gennych i gyflawni'r dasg
- Canlyniad (Result) - Dangos y canlyniad, yr hyn a gyflawnwyd gennych a'r hyn a ddysgoch.
Wrth ysgrifennu eich datganiad ategol, mae'n bwysig eich bod chi'n gallu dangos eich sgiliau a sut maen nhw'n cysylltu â'n Fframwaith Cryfderau. Byddem yn argymell defnyddio'r dull STAR wrth ysgrifennu eich datganiad ategol. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ar sut i ddefnyddio'r dull STAR yn ein canllaw 'Sut i ysgrifennu datganiad ategol'.
Mae pob cryfder yn gysylltiedig ag un o'n gwerthoedd craidd. Dyma'r cryfderau y bydd angen i chi eu dangos ar eich ffurflen gais:
Hyblyg
Gwerth craidd: Gweithio fel un tîm
- Gallwch addasu i newidiadau yn y gwaith neu’r amgylchedd.
- Rydych yn hyblyg ac yn amryddawn ac yn gallu bod yn eiriolwr dros newid.
Disgybledig
Gwerth craidd: Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid
- Rydych yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau o safon, mae gennych ddealltwriaeth o fusnes ac rydych yn anelu at ragori ym mhopeth yr ydych yn ei wneud.
Dysgwr
Gwerth craidd: Gwrando er mwyn gwella
- Rydych yn chwilfrydig, rydych yn chwilio am wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ddatblygu eich hun.
Gwella
Gwerth craidd: Ymdrechu i ragori
- Gallwch ddadansoddi gwybodaeth a rhoi safbwynt newydd beth bynnag y sefyllfa neu’r cyd-destun.
- Rydych yn clywed barn pobl eraill ac yn gallu deall bod llawer o safbwyntiau i’w hystyried.
Meithrin Perthynas
Gwerth craidd: Gweithredu ag uniondeb
- Rydych yn sicrhau parch ac ymddiriedaeth gyffredin yn gyflym, gan feithrin perthynas hirdymor ag eraill.
Catalydd
Gwerth craidd: Cymryd cyfrifoldeb personol
- Rydych yn meddu ar gymhelliad cryf i gyflawni amcanion.
- Rydych yn hyderus o ran gweithio heb gyfarwyddyd i gyflawni pethau.
Os ydych wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau asesiad ar-lein cyn mynychu Canolfan Asesu. Ystyrir bod Canolfannau Asesu yn ddull teg a manwl o ddewis ymgeiswyr, gan eu bod yn rhoi cyfle iddynt ddangos amrywiaeth eang o gryfderau sy’n berthnasol i’r swydd a hynny dros gyfnod o amser.
Nod fformat y Ganolfan Asesu i Raddedigion yw rhoi profiad ystyrlon a realistig sy’n gysylltiedig â gwaith i chi a fydd yn eich galluogi i gymryd rhan a dangos eich gwir botensial. Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut yr ydym yn cefnogi cyfleoedd am ddysgu a datblygu gan hefyd sicrhau bod eich uchelgeisiau unigol yn cyd-fynd â’n gofynion a’n gwerthoedd sefydliadol.
Byddwch yn cael amserlen sy’n manylu ar y gweithgareddau ynghyd â’r cyfarwyddiadau ynghylch pob un o’r ymarferion a gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ichi.
Fel arfer mae ein Canolfan Asesu i Raddedigion yn cynnwys:
- Ymarfer Efelychu e.e. Gweithgaredd grŵp
- Asesiad Iaith Ysgrifenedig/Llafar
- Cyflwyniad
- Cyfweliad â Phanel yn seiliedig ar eich gryfderau
Os ydych yn llwyddiannus yn y Ganolfan Asesu, fe'ch gwahoddir i gael cyfweliad ffurfiol gyda'r adran.
Nod y profion yw asesu’r cryfderau a nodwyd uchod. Bydd y ffordd yr ydych yn dangos y sgiliau hyn ar draws ystod o sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â gwaith yn sail i’r broses ddethol a bydd yn ein galluogi i roi adborth strwythuredig i chi.
Bydd hwn yn gyfle gwirioneddol i chi ddangos eich cryfderau sydd wedi'u gosod yn ein Fframwaith Cryfderuau, felly byddwch am sicrhau eich bod mor barod ag sy’n bosibl.
Mae’n bwysig, wrth ichi baratoi, eich bod yn rhoi sylw i broffil y swydd / y fanyleb person, a’ch bod yn gyfarwydd â’r cryfderau sy’n ofynnol ar y lefel hon er mwyn i chi allu rhoi enghreifftiau, defnyddio eich sgiliau a dangos sut yr ydych yn cydymffurfio â’n Gwerthoedd Craidd.
Byddem yn eich annog i chi fod yn gyfarwydd â gwybodaeth sefydliadol allweddol. Dyma rai dolenni all fod yn ddefnyddiol i chi:
- Rhestr o Adrannau'r Cyngor
- Gweithio i ni - Darganfyddwch sut mae'r Cyngor wedi'i strwythuro, sut rydyn ni'n gwneud ein penderfyniadau a beth yw ein Gwerthoedd Craidd.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - Mae hyn yn pennu ein ffordd o weithio ac mae’r 7 nod yn treiddio trwy bopeth a wnawn.
Os byddwch yn dangos y cryfderau rydym yn chwilio amdanynt yn y Ganolfan Asesu, cewch eich gwahodd wedyn i gyfweliad ffurfiol gyda'r adran.
Mae'r cyfweliad hwn yn gyfle i ddarganfod mwy amdanoch chi, eich diddordebau a'ch profiad. Bydd hyn yn ein helpu i weld pa mor dda y byddwch yn ffitio rôl y swydd.
Er mwyn paratoi ar gyfer y cam hwn byddai'n ddefnyddiol i chi wneud rhywfaint o ymchwil i'r adran a meddwl sut y gallech ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad yn y rôl.
Dolenni cysylltiedig:
Swyddi a Gyrfaoedd
Gweithio yn Sir Gâr
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Gyrfaeodd Dan Sylw
Bywyd yn Sir Gâr
Ein proses recriwtio
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
- Cydroddoldeb ac amrywiaeth
- Cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol
- Sgiliau Iaith Gymraeg
- Diogelu a Recriwtio Mwy Diogel
- Recriwtio Cyn-droseddwyr a Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Prentisiaethau
Profiad Gwaith
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd