Defnyddio'r model STAR
Pan fyddwch yn ysgrifennu eich Datganiad Ategol, mae angen i chi sicrhau bod rhywfaint o strwythur i'ch atebion. Mae'r model STAR yn ffordd wych o strwythuro eich enghreifftiau.
- Sefyllfa
- Tasg
- Gweithredu (Action)
- Canlyniad (Result)
Mae'n bwysig dilyn cynllun y meini prawf hanfodol, gan sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth. Maent hefyd yn ein helpu ni fel cyflogwyr i werthuso'r sgiliau, y rhinweddau a'r profiadau sydd gennych a fyddai'n eich helpu i fod yn addas ar gyfer y swydd neu'r cwmni.
Yma, byddwn yn dangos i chi sut y gallech chi ddefnyddio'r model STAR i ateb y cwestiwn enghreifftiol canlynol:
Q: Allwch chi roi enghraifft i mi o weithio fel rhan o dîm?
Sefyllfa: Disgrifiwch y sefyllfa lle y cynhaliwyd y digwyddiad.
"Pan oeddwn yn yr ysgol, fe wnes i gyflawni fy Ngwobr Dug Caeredin Efydd. Fel rhan o'r wobr, roedd yn rhaid i mi weithio mewn tîm i fynd o un safle gwersylla i'r llall o fewn amser penodol".
Tasg: Disgrifiwch y dasg y gofynnwyd i chi ei chwblhau. Os oedd problem neu fater penodol yr oeddech yn ceisio'i ddatrys, disgrifiwch hynny yma.
"Roeddwn i mewn grŵp o 4 gyda fy ffrindiau. Roedd yn rhaid i bob un ohonom gario gwahanol rannau o'r offer yr oedd ei angen arnom e.e. y babell, polion y babell ac offer coginio. Rwy'n teimlo bod gen i sgiliau cyfathrebu da, felly fe wnes i sicrhau bod pob un ohonom yn gwybod beth oedd y llall yn ei gario pan oedden ni'n gadael y safle i wneud yn siŵr nad oeddem yn gadael unrhyw beth ar ôl. Cefais fy enwebu i fod y cyntaf yn y grŵp i ddarllen y map a defnyddio'r cwmpawd i fynd â ni i'r siecbwynt cyntaf, ac roeddwn i'n hapus i wneud hynny".
Gweithredu: Esboniwch pa gamau a gymeroch chi i gwblhau'r dasg neu ddatrys y broblem: Beth wnaethoch chi, pam y gwnaethoch chi hynny, sut y gwnaethoch chi hynny a pha sgiliau y gwnaethoch chi eu defnyddio.
"Fel grŵp buom yn gweithio'n dda gyda'n gilydd. Roedd un o'r bechgyn yn cael trafferth gyda phwysau ei warbac felly fe wnes i awgrymu ein bod i gyd yn rhoi o'i gynnwys yn ein bagiau i'w wneud yn haws iddo barhau".
Canlyniad: Esboniwch ganlyniad eich gweithredoedd. Er enghraifft, os oedd eich gweithredoedd wedi arwain at gwblhau tasg, datrys gwrthdaro, gwella record gwerthiant eich cwmni, ac ati. Esboniwch hyn. Ceisiwch ganolbwyntio ar sut arweiniodd eich gweithredoedd at lwyddiant.
"Fe wnaethom gyrraedd ein safle gwersylla nesaf o fewn yr amser a ganiatawyd. Roeddwn i'n teimlo ein bod yn gweithio'n dda fel grŵp ac yn trafod unrhyw beth nad oeddem yn siŵr ohono ar hyd y ffordd. Roedd fy ffrind yn teimlo'n hapus ei fod wedi cwblhau'r daith gerdded gan nad oedd yn meddwl y byddai'n llwyddo i wneud hynny ond fel grŵp roeddem wedi'i annog i ddal ati, a thrwy fynd ychydig yn arafach a chymryd rhywfaint o'i offer oddi arno, roeddem yn gallu cyrraedd y gwersyll yn brydlon".
Awgrym defnyddiol: Os ydych yn gwneud cais am rôl i raddedigion, byddwn yn gofyn i chi ddefnyddio'r model STAR i ddangos eich sgiliau a sut maen nhw'n cysylltu â'n Fframwaith Cryfderau wrth ysgrifennu eich datganiad ategol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Rhaglen Graddedigion.