Gweithio i ni

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/11/2022

Sir Gaerfyrddin yw un o'r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a'r Cyngor Sir yw'r cyflogwr mwyaf yn lleol gan ei fod yn cyflogi tua Gwerthoedd craidd8,300 o staff. Mae cyllideb flynyddol y Cyngor Sir yn fwy na £450 miliwn,ac mae'r awdurdod yn darparu cannoedd o wasanaethau i fwy na 180,000 o drigolion. Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf hefyd yn cynnal cannoedd lawer o swyddi a busnesau lleol.

Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i adfywio; buddsoddi mewn ysgolion trwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg; a gwella tai cyngor trwy fenter Safon Tai Sir Gaerfyrddin.

Y 74 aelod etholedig sy'n gyfrifol am lunio polisïau'r Cyngor Sir. Model Arweinydd a Bwrdd Gweithredol sydd gan Sir Gaerfyrddin ac mae'r Weinyddiaeth bresennol yn gynghrair rhwng Plaid Cymru a'r grŵp Annibynnol. Y Bwrdd Gweithredol - sydd ar ffurf 10 o gynghorwyr, gan gynnwys yr Arweinydd a'r ddau Ddirprwy Arweinydd, y mae ganddynt oll bortffolios penodedig - sy'n datblygu ac yn gweithredu polisïau'r Cyngor.

Mae'r rhan fwyaf o'r cynghorwyr [ac eithrio aelodau'r Bwrdd Gweithredol] yn aelodau o un o'r pum Pwyllgor Craffu. Mae'r pwyllgorau eraill yn cynnwys Cynllunio, Trwyddedu, Safonau ac Archwilio. Mae gan y Cyngor Sir bum cyfarwyddiaeth – Y Prif Weithredwr; Addysg a Phlant; Yr Amgylchedd; Cymunedau ac Adnoddau.

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir ddwyieithog, ac yng nghyfrifiad 2011 cofnodwyd bod rhyw 46% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin na'r un sir arall yng Nghymru ac mae'r iaith yn agwedd bwysig ar hanes a diwylliant y sir.

Mae'r Cyngor yn gyflogwr gofalgar ac mae'n Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym wedi ymrwymo I egwyddorion dysgu a datblygu er mwyn cefnogi ein gweithwyr i feithrin eu sgiliau, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio a buddiannau er mwyn helpu pobl i gydbwyso bywyd a gwaith. Rydym yn cydnabod ac yn cymell blaengarwch, gwaith rhagorol a safonau o'r radd flaenaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu a'n staff ac i wrando arnynt ynghyd a hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Mae’r Cyngor Sir hefyd yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn cydweithio gyda phartneriaid eraill i wella llesiant ein sir. Ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Dyfed Powys a’r Comisinydd Heddlu a Throsedd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr.