Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
Yn 2022, cynhaliwyd arolwg i gael barn staff ynglŷn â sut roeddent yn teimlo am weithio i'r Cyngor a'u barn am berfformiad y Cyngor. Fe enillon ni achrediad Aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl
Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
Mae gwerthoedd y Cyngor yn rhan sylfaenol o ddiwylliant ac ethos y sefydliad, gan arwain y ffordd yr ydym yn gweithio, y ffordd yr ydym yn gwella a’r ffyrdd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein cymunedau.
Oherwydd ei ddiwylliant blaengar ac agored, mae staff yn barod i ymateb i heriau gyda chryfder ac agwedd gadarnhaol. Mae'r sefydliad wedi datblygu ac yn denu arweinwyr medrus a dawnus, sy'n awyddus i wireddu'r potensial y mae'r Cyngor wedi'i greu.
Mae staff o bob adran yn cytuno'n gryf eu bod yn gwybod beth sydd i'w ddisgwyl ganddynt yn y gwaith. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng hyn a staff yn gwybod beth mae eu rheolwr yn ei ddisgwyl ganddynt.
Mae cytundeb ymhlith staff ar draws adrannau bod ganddynt y sgiliau a'r offer cywir i gyflawni'u gwaith.
Mae'r dull o arwain yn un agored, tryloyw, ystwyth a hawdd mynd ato.
Mae'r Cyngor yn cyflawni canlyniadau rhagorol o ganlyniad i'r ffyrdd y mae pobl yn cael eu hannog a'u grymuso i fod yn ystwyth, yn arloesol ac yn gydweithredol.
Mae staff yn cytuno eu bod wedi cael eu hannog i ddysgu a datblygu yn eu rôl a’u bod wedi cael cyfleoedd i ddysgu a datblygu yn y 12 mis diwethaf.
Yn gyffredinol, mae staff yn falch o weithio i'r Cyngor, ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ymatebion i'r arolwg lle roedd staff o bob adran yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y byddent yn argymell y Cyngor fel cyflogwr.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma beth ddywedodd ein staff am y Cyngor...

"Rwy'n credu bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr gwych sydd â rhai mentrau da i gefnogi staff"
"Rwy'n gweithio gyda'r Adran Gynllunio ac yn falch iawn o hynny. Rydym yn flaengar ac yn ymroddedig ac yn arwain y gwaith hwn ledled Cymru ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth mae fy rheolwyr wedi’i rhoi i ni dros y blynyddoedd.”
"Cyflymwyd ein hagenda gweithio ystwyth yn sgil COVID 19 ac ymatebodd yr is-adran TG yn dda o ran sicrhau ein bod ni gyd yn gallu gweithio o bell. Mae'r ffordd hon o weithio wedi cynyddu fy nghynhyrchiant ac rwy'n teimlo bod pobl yn gallu ymddiried ynof i fwrw ymlaen â'm gwaith."
"Mae ein his-adran wedi dewis gweithio mewn ffordd ystwyth ac mae’r dull gweithio hybrid y mae’r cyngor yn ei ddefnyddio yn fy nghefnogi'n dda i a) fod yn fwy cynhyrchiol b) cael llai o amser segur oherwydd nad wyf yn teithio rhwng cyfarfodydd ac c. ) cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith”
"Rwy'n cwrdd â'm cydweithwyr wyneb yn wyneb ychydig o weithiau y mis i wneud pethau nad ydym yn gallu eu gwneud o bell. Rydym hefyd yn manteisio ar y dyddiau hyn i sicrhau bod pawb yn cadw'n iawn. Mae gweithio yn y modd hwn yn gwneud i mi deimlo’n ddiogel a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi."
Adolygiadau ar Indeed

Adolygiadau ar Glassdoor

Adolygiadau ar Glassdoor