Fel yr Aelod y Cabinet dros Drafnidiaeth a’r Gweithlu rwy'n falch iawn o'r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i Raddedigion. Mae ein gweithlu, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i'n dinasyddion yn ganolog i'r sefydliad hwn. Ac rydym yn chwilio am bobl sy'n dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ogystal â hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddarparu ein gwasanaethau. Mae gweledigaeth y Cabinet hwn yn uchelgeisiol o ran sicrhau cyfleoedd cyflogaeth leol ar bob lefel.
Mae ein rhaglen lwyddiannus i raddedigion yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy'n gadael y brifysgol i ennill profiad gwerthfawr a pharhau â'u haddysg o fewn sefydliad sy'n newid yn barhaus, yn ddeinamig, ac yn flaengar. Yn agored i bob oedran, rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n rhaglen a'n helpu i lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Gaerfyrddin.
Rydw i, a gweddill y Cabinet, yn cymryd diddordeb brwd yng nghynnydd ein graddedigion ac edrychaf ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus.