Help i ddod o hyd i swydd
A ydych yn ddi-waith? Os ydych yn edrych am waith, gallwn helpu. Gall ein tîm cymorth cyflogaeth eich helpu i oresgyn rhwystrau o ran dychwelyd i'r gwaith, gan sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch ar hyd y ffordd. Fel rhan o'ch cais, byddwn yn helpu i nodi'r rhaglen sgiliau sy'n addas i chi. Bydd hyn yn cynnwys:
- Nodi cyfleoedd hyfforddiant
- Darparu mentor personol i chi a fydd yn eich helpu i nodi eich sgiliau ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu swydd
- Eich helpu i feithrin hyder
- Eich helpu i ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau am swyddi
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar sut y gallwn eich cefnogi chi, ffoniwch 01554 744303 neu e-bostiwch emloymentsupport@sirgar.gov.uk.