Dysgu Oedolion yn y Gymuned
A ydych chi'n 16+ ac eisiau dysgu rhywbeth newydd, gwella eich sgiliau neu gael cymhwyster ffurfiol?
Rydym yn cynnig cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE), Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol o lefel sylfaenol hyd at TGAU mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr. Hefyd rydym yn cynnig Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain ac ystod o weithgareddau celf a chrefft drwy gydol y flwyddyn.
Mae gennym ganolfannau dysgu yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, yn ogystal ag mewn rhai lleoliadau cymunedol yn y sir ac mewn ysgolion gyda'n tîm Dysgu fel Teulu. Mae'r dosbarthiadau'n fach ac yn gyfeillgar, ar lefel sy'n addas i'ch anghenion, a gallant fod heb eu hachredu, neu gallwch weithio tuag at gymwysterau i'ch helpu i symud ymlaen i astudiaeth bellach neu gyflogaeth.
Cysylltwch â ni neu llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb i gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â'ch anghenion dysgu.
Pa gyrsiau sydd ar gael?
Os ydych dros 16 oed a hoffech ddysgu rhywbeth newydd neu ennill cymhwyster ffurfiol, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ar gael, o ddysgu Cymraeg, i gyrsiau TGAU. Gadewch i ni eich helpu i ddewis y cwrs cywir ar eich cyfer.
Dewch i wybod pa gyrsiau sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd
I drefnu asesiad cychwynnol neu le ar y cwrs Sgiliau Hanfodol neu'r cwrs Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, cysylltwch â'ch Canolfan Ddysgu agosaf.
Rhydaman
Caerfyrddin
Llanelli
Cofrestru Eich Diddordeb
Os hoffech gofrestru eich diddordeb yn ein darpariaeth Sgiliau Hanfodol neu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb. Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer ymholiadau neu i gofrestru.
Awgrym defnyddiol: Oeddech chi'n gwybod y gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn Sir Gaerfyrddin ddefnyddio ein Llyfrgell Ddigidol am ddim? Gallwch gael mynediad i adnoddau sy'n amrywio o feddalwedd cyfrifiadurol i gyfnodolion academaidd ar-lein. Porwch ein Llyfrgell Ddigidol.
Dyddiadau Pwysig
Dyddiadau Tymor
Nodyn:
- Rydym yn bwriadu cynnal ein holl ddosbarthiadau - ond efallai y bydd rhaid inni ganslo dosbarth yn achlysurol os yw'r niferoedd yn rhy isel.
- Os yw unrhyw ffioedd wedi'u talu, gallwn ond ad-dalu mewn amgylchiadau eithriadol ar gais ysgrifenedig.
- Bydd eich tiwtor yn esbonio'r pwyntiau Iechyd a Diogelwch sy'n ymwneud â'ch dosbarth ichi.
- Bydd angen tystiolaeth adnabod swyddogol arnoch i brofi eich cymhwysedd ar gyfer cyrsiau SSIE a sgiliau hanfodol.