Llyfrgell digidol

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/06/2024

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn Sir Gaerfyrddin ddefnyddio ein Llyfrgell Ddigidol. Mae dros 19,000 o lyfrau a comics ar gael am ddim ichi lawrlwytho, neu gallwch ymarfer ar gyfer eich prawf gyrru theori, dysgu iaith newydd, dewis o blith 500 o storïau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant rhwng 4 oed a 12+, dilyn pwnc newydd, dysgu rhagor am feddalwedd gyfrifiadurol gyda sesiynau tiwtorial ar-lein, lawr lwytho papurau newydd, cael mynediad i gyhoeddiadau academaidd ar-lein, chwilota drwy gannoedd o wyddoniaduron ynghyd â thros 200,000 o ddelweddau a ffeiliau sain, a bron i 200 o fideos. Hefyd, os ydych chi'n paratoi ar gyfer bywyd yn y Deyrnas Unedig gallwch baratoi ar gyfer prawf Byw yn y Deyrnas Unedig neu brawf dinasyddiaeth Brydeinig.

Bydd angen i chi fod yn aelod o'r llyfrgell a chael manylion eich cerdyn llyfrgell i gael mynediad at wasanaethau llyfrgell ddigidol a'r apiau.

  • Pob categori

Rheolwch eich aelodaeth llyfrgell

Gallwch ymuno ar-lein ond bydd yn rhaid ichi gyflwyno prawf o bwy ydych chi yn eich llyfrgell leol cyn y bydd eich cyfrif yn gweithio'n iawn. Pan fyddwch chi'n gwneud hyn, gofynnwch am PIN a byddwch yn gallu cadw ac adnewyddu eitemau ar-lein.

Ancestry

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, ewch i'ch llyfrgell leol

Artist Works

Hyfforddiant o safon fyd eang ar gyfer aelodau llyfrgelloedd drwy wersi fideo ar eich cyflymder eich hun gan bobl broffesiynol o fyd cerddoriaeth sydd wedi ennill gwobrau Grammy. O wersi lefel ragarweiniol i uwch, mae ArtistWorks yn cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer hyfforddiant cerddorol ac artistig.

  • Hyfforddiant cerddoriaeth o lefel dechreuwyr i uwch yn yr offerynnau band a llinynnol mwyaf poblogaidd. Canu; Gitâr; Bas; Clasurol; Piano; Harmonica; Ffliwt; Mandolin; Offerynnau Taro; Jazz a llawer mwy.
  • Hyfforddiant gan gerddorion proffesiynol
  • Dosbarthiadau celf a llais
  • Video-based lessons with bookmarking features
  • Gwersi fideo gyda nodweddion dalen gofnod ar bwrdd gwaith a ffôn symudol

BFI Replay

Mae BFI Replay yn archif ddigidol am ddim gan BFI (Sefydliad Ffilm Prydain), sydd ar gael yn unig mewn llyfrgelloedd benthyca cyhoeddus yn y DU, gan gynnwys holl lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.

Mae BFI Replay yn datgelu straeon o bob rhan o'r DU, ei hanes a'i phobl, gyda dros 60 mlynedd o ffilm, teledu a fideo o bob cwr o'r DU.   Ailfyw, ymchwilio a cholli eich hun yn y gorffennol gyda miloedd o fideos wedi'u digideiddio a rhaglenni teledu o gasgliadau Archif Genedlaethol BFI a phartner Archifau Ffilm Rhanbarthau a chenhedloedd y DU.

Gwyliwch y byd fel roedden ni'n ei adnabod a'r cymunedau oedd yn ei fyw.  O fideos hanes lleol o streic y glowyr o'r 1980au i adran 'Ein Iaith' a gwylio David Parry-Jones yn cyfweld y chwedl leol Ray Gravell yn Gymraeg.

I gael mynediad i'r gwasanaeth hwn, ewch i'ch llyfrgell leol.

BorrowBox

Mynediad ar unwaith i restr gynyddol o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar! Drwy ap BorrowBox mae'n hawdd pori drwy e-lyfrau ac e-lyfrau llafar eich llyfrgell, ac wedyn eu benthyca a'u darllen neu wrando arnynt unrhyw le.