Datgloi Llyfrgelloedd
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Llyfrgell Caerfyrddin bellach yn cynnig aelodaeth i'r cynllun Datgloi Llyfrgelloedd. Mae'r dechnoleg hon yn galluogi aelodau'r cynllun Datgloi Llyfrgelloedd i gael mynediad i lyfrgell y tu allan i oriau agor arferol.
P'un a ydych yn ymchwilio neu ag aseiniadau i'w cwblhau, gall Datgloi Llyfrgelloedd roi mynediad i chi at ddeunyddiau ar ôl i'r llyfrgell gau.
Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais am aelodaeth Datgloi Llyfrgelloedd, galwch i mewn i Lyfrgell Caerfyrddin lle gall staff eich tywys drwy'r broses.