Rhowch eich cod post i chwilio am eich llyfrgell deithiol agosaf.
Llyfrgell Symudol
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y Llyfrgell Symudol yn gweithredu ar ei thaith heddiw 14 Awst 2026. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Llyfrgell Caerfyrddin ar 01267 224824.
O 3 Ebrill 2023 ymlaen, y byddwn yn darparu ein gwasanaethau symudol bob tri wythnos. Ewch i’r calendr am rhagor o wybodaeth I ddod o hyd I’ch stop agosaf.
Mae gan y llyfrgell symudol ddewis o lyfrau i oedolion a phlant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol poblogaidd, yn ogystal â llyfrau print bras.
Os nad oes gan y llyfrgell symudol y math o lyfrau rydych yn hoffi, gallwch wneud cais am unrhyw eitem o unrhyw un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn rhad ac am ddim drwy ein catalog ar-lein neu drwy staff y llyfrgell symudol. Gallwch wneud cais am eitemau eraill am dâl bychan.
