Hurio stafell

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Ydych chi'n chwilio am le i gynnal swyddogaeth? Edrychwch dim pellach, mae gan Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin nifer o leoliadau fforddiadwy a hyblyg i'w llogi yn Llyfrgell Llanelli. P'un a ydych yn chwilio i gynnal cyfweliadau, orielau celf, cynadleddau, cyrsiau hyfforddi neu gyfarfodydd gennym le ar gyfer eich anghenion. Mae gan bob ystafell llyfrgell fynediad i; Wi-fi, cyfleusterau toiled, byrddau a chadeiriau.

Mae’r neuadd hardd hyn yn Radd 2 Rhestredig ac yn un o'r adeiladau hynaf yn y dref. Mae'r neuadd eang, ddeniadol yn darparu ar gyfer ystod eang o swyddogaethau - gan gynnwys priodasau, cyngherddau, cynadleddau a chyfarfodydd cyffredinol. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer arddangosfeydd celf a chrefft a pherfformiadau cerddoriaeth / theatr.

I hurio ystafell yma galwch 01554 744327

Mae'r ystafell Fred Roberts yn perffaith ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau llai o faint ac mae hefyd yn lleoliad rhagorol i gynnal amrywiaeth o arddangosfeydd.

I hurio ystafell yma galwch 01554 744327

Gall grwpiau ac unigolion logi'r Oriel ar gyfer arddangosfeydd, cyfarfodydd, lansiadau llyfrau, Ioga, ymweliadau ag ysgolion, sioeau ffilm a.y.b. Mae'r oriel yn ystafell agored mawr gyda waliau gwyn, sy’n cael digon o olau a aer, wedi leoli ar y llawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft neu'r grisiau. Mae yna le i 60 o gadeiriau.

I hurio ystafell yma galwch 01269 598360

Ystafell Gynadledda all eistedd 8 o bobl yn gyfforddus.  Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft neu'r grisiau.

I hurio ystafell yma galwch 01269 598360

Mae ystafell eang a gweithredol yn ddelfrydol ar gyfer ystod o weithgareddau – arddangosfeydd Celf a Chrefft, cyngherddau bychain, cynadleddau, a digwyddiadau cymunedol amrywiol.  Yn medru cynnwys hyd at 60 o bobl yn eistedd. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824

Cynadleddau mawr, gofod pleserus ag awyrog sydd yn medru cynnwys hyd at 40 o bobl yn eistedd yn gyffyrddus. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824

Yn ddelfrydol ar gyfer dosbarthiadau bach, cyfweliadau, ayb. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824

Graddfeydd Hyd yr arhosiad
£16 yr awr
£40 am sesiwn 2.5 - 4 awr
£72 y diwrnod (9am – 4:30pm)
£105 graddfa hwyrol o 5pm – 10pm (ar gyfer cynhyrchiad neu gyngherddau, fel arall cedwir at graddfeydd arferol yn ôl yr awr)
£262.50 Graddfa wythnosol gyfer arddangosfeydd gan gymdeithasau di-elw (y mwyaf allan o £250 neu 40% tâl comisiwn ar unrhyw werthiant yn ystod yr arddangosfa)
£367.50 Graddfa wythnosol ar gyfer arddangosfeydd gan gymdeithasau sy’n gwneud elw (y mwyaf allan o £300 neu 40% tâl comisiwn ar unrhyw werthiant yn ystod yr arddangosfa)

Ychwanegiadau: Llogi taflynudd, £10.50 pob sesiwn llogi

Amodau Gosod Stafelloedd

  • Rhaid cysylltu â’r Llyfrgell ymlaen llaw ynglyn â’r celfi/offer sydd eu hangen yn y stafell.
  • Gellir talu ar ddyddiad y cyfarfod, neu fe’ch anfonebir gan yr awdurdod.
  • Rhaid rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod llawn os am ganslo’r cyfarfod, neu fe godir y tâl llogi llawn.
  • Disgwylir i ddefnyddwyr adael y stafelloedd yn y cyflwr yr oeddent ar ddechrau’r cyfarfod.
  • Nid yw papur ac ati wedi’u cynnwys yn y pris; gellir prynu siartiau troi a marcwyr bwrdd o’r llyfrgell.
  • Nid yw’r llyfrgell yn darparu lle parcio.