Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023
Mae'n hawdd ymuno - gallwch gofrestru ar-lein drwy roi ychydig o fanylion syml neu drwy ffonio un o'n tair prif lyfrgell lle bydd aelod o'n tîm yn rhoi carden llyfrgell a rhif PIN dros dro i chi. Dim ond hyn a hyn o staff sydd gennym yn ein llyfrgell ar hyn o bryd, felly os na allwch gael ateb y tro cyntaf, rhowch gynnig ar un o'r llinellau eraill
- Llyfrgell Rhydaman - 01269 598360
- Llyfrgell Caerfyrddin - 01267 224824
- Llyfrgell Llanelli - 01554 743327
Mae defnyddio'r gwasanaeth clicio, casglu, dosbarthu yn hawdd. Mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell i ddefnyddio'r gwasanaeth.
- Mewngofnodwch i'r llyfrgell ar-lein ac archebwch eich llyfrau.
- Ar ôl i ni eu rhoi ar gadw i chi, byddwch yn derbyn e-bost/SMS gyda dolen i drefnu apwyntiad i'w casglu o Gaerfyrddin, Rhydaman, Llanelli, Llwynhendy, Porth Tywyn neu Llandeilo.
- Os nad ydych chi'n gallu casglu eich llyfrau, gallwch hefyd ddewis iddynt gael eu dosbarthu i chi. Cofiwch, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i dderbyn eich llyfrau os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn.
Wrth ymweld â'r llyfrgelloedd, bydd disgwyl i bobl ddilyn y canllawiau sy'n cynnwys rhifau mynediad rheoledig a sesiynau wedi'u hamseru.
Os oes angen cymorth arnoch i drefnu hyn neu os hoffech gael help i ddewis eich llyfrau ffoniwch eich llyfrgell rhanbarthol.
Na, gallwch ddefnyddio rhif cerdyn a'ch PIN presennol i gael mynediad i'r gwasanaeth. Os oes angen eich rhif PIN arnoch, cysylltwch â'ch llyfrgell ranbarthol agosaf.
- Llyfrgell Rhydaman - 01269 598360
- Llyfrgell Caerfyrddin - 01267 224824
- Llyfrgell Llanelli - 01554 743327
Mor aml ag y dymunwch.
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth clicio, casglu, dosbarthu neu os hoffech gael help i ddewis eich llyfrau gan un o'n llyfrgellwyr, cysylltwch eich llyfrgell rhanbarthol.
We are taking a phased approach to the re-introduction of our libraries to ensure the safety of staff and visitors. There is a lot of work involved to make sure the necessary social distancing measures are in place. We are working hard to offer as many of our library services as possible, your patience is really appreciated at this time.
We will continue to review the situation and update our website with information on when you’ll be able to visit your nearest library.
Don’t forget if you’re unable to get to Carmarthen, Ammanford or Llanelli you can request books to be delivered to your home.
Gallwch archebu hyd at 20 o eitemau, gan gynnwys llyfrau a llyfrau llafar. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi beidio ag archebu mwy na 10 eitem er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaeth i gynifer o bobl â phosibl.
Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 3 wythnos.
Os ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth clicio a chasglu, nid oes angen i chi wneud apwyntiad i ddychwelyd eitemau. Bydd mynedfa ar wahân i ddychwelyd eich llyfrau. Bydd arwyddion clir o hyn yn y Llyfrgell.
Os oes llyfrau wedi cael eu dosbarthu i'ch cartref, byddw yn trefnu eu casglu wrth ddosbarthu.
Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif llyfrgell ar-lein. Os ydych eisoes wedi gwneud apwyntiad ac mae hwn yn newid munud olaf, ffoniwch y llyfrgell a siaradwch ag aelod o'n tîm. Dim ond hyn a hyn o staff sydd gennym yn ein Llyfrgell ar hyn o bryd, felly os na allwch gael ateb y tro cyntaf, rhowch gynnig ar un o'r llinellau eraill.
- Llyfrgell Rhydaman - 01269 598360
- Llyfrgell Caerfyrddin - 01267 224824
- Llyfrgell Llanelli - 01554 743327
Gallwch adnewyddu eich llyfrau ar-lein. Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Gallwch hefyd ffonio'r Llyfrgell a siarad ag aelod o'n tîm. Dim ond hyn a hyn o staff sydd gennym yn ein Llyfrgell ar hyn o bryd, felly os na allwch gael ateb y tro cyntaf, rhowch gynnig ar un o'r llinellau eraill.
- Llyfrgell Rhydaman - 01269 598360
- Llyfrgell Caerfyrddin - 01267 224824
- Llyfrgell Llanelli - 01554 743327
Os ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth clicio a chasglu, nid oes angen i chi wneud apwyntiad i ddychwelyd eitemau. Bydd mynedfa ar wahân i ddychwelyd eich llyfrau. Bydd arwyddion clir o hyn yn y llyfrgell.
Os oes llyfrau wedi cael eu dosbarthu i'ch cartref, byddw yn trefnu eu casglu wrth ddosbarthu.
Na fyddwch, ni chodir dirwyon am eitemau hwyr tra bydd y llyfrgelloedd yn parhau i fod ar gau.
Bydd angen i chi ddod â'ch cerdyn aelodaeth neu brawf adnabod megis trwydded yrru sy’n cyfateb i fanylion y person a oedd wedi archebu'r eitemau. Cofiwch, mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Cyn belled â'u bod yn dod â'ch cerdyn aelodaeth neu brawf adnabod sy'n cyfateb i'ch manylion.
Wrth ymweld â'r llyfrgelloedd, bydd disgwyl i bobl ddilyn y canllawiau sy'n cynnwys rhifau mynediad rheoledig a sesiynau wedi'u hamseru.
Ni fydd staff dosbarthu yn mynd i mewn i'ch eiddo. Byddwn yn gadael llyfrau y tu allan i'ch drws neu mewn lle diogel dynodedig, a byddant yn cael eu casglu heb unrhyw gyswllt corfforol rhwng cwsmeriaid a staff y llyfrgell. Bydd angen i chi fod gartref pan fyddwn yn gwneud hyn, fel ein bod yn gwybod bod y llyfrau wedi cael eu derbyn yn ddiogel.
Bydd hylif diheintio dwylo ar gael yn y mannau casglu a gollwng.
Bydd yr holl lyfrau'n cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr ar ôl iddynt gael eu dychwelyd cyn y gellir eu rhyddhau i'w benthyg eto.
Cyn gynted ag y bydd eich dewis o lyfrau wedi'i brosesu a bod slot dosbarthu ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi y dyddiad a thua pha amser y byddwn yn dosbarthu.
Cofiwch, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i dderbyn eich llyfrau os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn. Os ydych yn gallu casglu eich llyfrau, byddem yn argymell eich bod yn gwneud hyn.
Bydd eitemau'n cael eu dosbarthu dydd Llun - dydd Gwener a bydd slot wedi'i drefnu ymlaen llaw rhwng 9am a 5pm.
Bydd, byddwn yn dod â'ch llyfrau mewn bag i'ch stepen drws ac yn aros o bellter diogel i chi dderbyn eich eitemau.
Gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar drwy BorrowBox neu RBdigital o'n llyfrgell ddigidol fel rhan o'ch aelodaeth o'r Llyfrgell.
- Ewch i wefan Zinio a mewngofnodi, gallwch bori y casgliad llawn neu chwilio am gylchgrawn penodol
- Cliciwch ar y cylchgrawn yr hoffech ei ddarllen a chliciwch "Checkout" i ddarllen ar-lein.
- I ddarllen all-lein gallwch lawrlwytho'r ap RBDigital ar gyfer iPad / Android.
- Gallwch hefyd ddewis i dderbyn hysbysiadau e-bost o bryd fydd y rhifyn nesaf ar gael i'w darllen/lawrlwytho.
- Ymunwch â'n llyfrgell os nad ydych eisoes yn aelod
- Ewch i wefan Zinio eMagazines
- Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell, rhif PIN a manylion personol a chliciwch "Create Account".
- Gallwch newid eich dewisiadau a sefydlu hysbysiadau am Cylchgronau drwy glicio ar yr eicon ar yr ochr dde uchaf y wefan.
Bydd y gwasanaeth e-lyfrau yn caniatáu 3 diwrnod i chi lawrlwytho'r e-lyfr. Wedi hynny bydd yr e-lyfr yn cael ei gynnig i'r nesaf ar y rhestr aros neu'n cael ei ddychwelyd i'r gronfa e-lyfrau i gael ei gyrchu gan ddefnyddwyr eraill.
Ar gyfer defnyddwyr PC / MAC ac am yr holl ddarllenwyr sydd yn gydnaws â Rheolaeth Cyfyngiadau Digidol (RCD), bydd yr e-lyfrau yn cael eu llwytho i lawr gan defnyddio'r meddalwedd safonol am e-lyfrau, Adobe Digital Editions.
Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-lyfr byddwch yn cael cyfarwyddyd i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editions os nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur yn barod.
Nac ydych. Os nad ydych chi wedi gorffen yr e-lyfr, cewch ei lawrlwytho eto os nad oes neb arall wedi'i archebu. Os oes archeb wedi'i gwneud, bydd angen ichi ychwanegu eich manylion at y rhestr aros a byddwch yn cael gwybod pan fydd yr e-lyfr ar gael i'w fenthyg.
21 diwrnod yw'r cyfnod benthyg a bydd yr e-lyfr yn darfod ar ôl hynny ac ni fydd modd ei ddarllen ar eich cyfrifiadur neu ddarllenydd e-lyfrau. Wedyn, bydd modd i ddefnyddiwr arall lawrlwytho'r e-lyfr.
- Ymunwch â'r llyfrgell os nad ydych eisoes yn aelod
- Ar eich llechen/ffôn clyfar lawrlwythwch yr ap BorrowBox drwy eich siop apiau. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur personol neu Mac ewch yn uniongyrchol i BorrowBox.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell.
- Ewch ati i bori drwy'r casgliad 24/7 yn ôl teitl, awdur neu gategori. Gallwch gael cip ymlaen llaw ar y llyfrau cyn eu benthyca. Ewch ati i gadarnhau eich dewis neu roi lyfr ar gadw ar gyfer adeg arall.
- Lawrlwythwch y llyfr ar unwaith neu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod benthyca. Pan fydd llyfrau a roddwyd ar gadw yn barod i'w lawrlwytho bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cofrestredig (wedi'i ddiweddaru drwy "My Account").
- Ar ôl mewngofnodi mae gan BorrowBox adran cymorth gynhwysfawr ac mae hefyd yn darparu cymorth technegol drwy support@bolindadigital.com
Ydych. Mae'r gwasanaeth e-lyfrau'n caniatáu ichi archebu e-lyfr sydd wedi cael ei lawrlwytho. Os ydych chi am gynnwys eich cyfeiriad e-bost gyda'r archeb byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y bydd y teitl ar gael.
Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn falch i gyhoeddi bod aelodau’r llyfrgell yn gallu mynychu cyfleusterau TG gydag apwyntiad yn y tri prif llyfrgell a’r 4 llyfrgell gymunedol mwyaf:
- Llanelli 01554 744288
- Caerfyrddin 01267 224990
- Rhydaman 01269 598361
- Porth Tywyn 01554 834478
- Llwynhendy 01554 778402
- Llandeilo 01558 825323
- Llangennech 01554 821537
Ffoniwch i archebu eich sesiwn. Ar gyfer cydymffurfio gyda chanllawiau pellhau cymdeithasol, mae nifer cyfyngedig o gyfrifiaduron ar gael, ac felly dim ond un sesiwn o 50 muned a ganiateir i bob cwsmer bob dydd.
Mae llyfrgell Rhydaman yn cynnig argraffu 3D gan apwyntiad yn unig.
Mwy ynghylch Llyfrgelloedd ac Archifau