Stordy Creadigol
Cyfuniad o wyddoniaeth, cymuned, a rhywbeth cwbl newydd; mae yna rywbeth i bob oedran, o grefftwyr, addysgwyr, peirianwyr, dilynwyr technoleg, rhai sy'n hoffi potsian, clybiau gwyddoniaeth, awduron, artistiaid, myfyrwyr a stondinau masnachol. Dewch i ddysgu a rhannu syniadau newydd!
Mae Stordy Creadigol yn cynnig gofod hygyrch i ddyfeisio a chreu ystod gynhwysfawr o gynhyrchion. O argraffu i sganio gwrthrychau 3D, recordio eich cerddoriaeth eich hun a chynhyrchu fideo, neu godio eich meddalwedd eich hun. Mae gennym yr offer diweddaraf sydd ar gael i greu prototeip gweithredol gyda'ch cysyniad.