Archifau Sir Gaerfyrddin
Archifau Sir Gaerfyrddin – gwasanaeth archifau swyddogol Sir Gaerfyrddin.
Wedi’i sefydlu ym 1959, Archifau Sir Gaerfyrddin yw gwasanaeth archifau awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin ac mae wedi’i leoli yn ein hystafell chwilio gyhoeddus yn Llyfrgell Caerfyrddin.
Mae’r gwasanaeth yn gartref i’n casgliad helaeth o ddogfennau hanesyddol sy’n dyddio o’r 13eg ganrif hyd heddiw. Mae'r casgliad yn cynnwys archifau, mapiau, llyfrau, ffotograffau, fideos a recordiadau sain. Ein bwriad yw cadw'r dogfennau a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer astudiaeth ac ymchwil gyffredinol.
Mae mynediad i'r ystafell chwilio am ddim ac mae ein staff wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau.