Ein Casgliad
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024
Mae archifau Sir Gaerfyrddin yn llawn straeon hynod ddiddorol am bobl a lleoedd.
Mae ein daliadau, sy'n cynnwys cofrestri plwyf, dyddiaduron, llythyrau, cofnodion llys, ffotograffau, cofnodion llywodraeth leol, cofnodion addysg, cofnodion ystadau a chofnodion ysgol, yn hawlio bron i 4km o silffoedd.
Mae’r cyfoeth hwn o ddeunydd ar gael i ymchwilwyr ei ddefnyddio a’i fwynhau, p’un a ydych yn olrhain hanes eich teulu, hanes tŷ, hanes lleol, neu feysydd eraill o ddiddordeb.
Offer chwilio
- Ystafell Chwilio: Mae modd dod o hyd i'n harchifau trwy ein catalogau a'r mynegeion sydd yn yr ystafell chwilio gyhoeddus: Os ydych yn ymweld â'r gwasanaeth am y tro cyntaf, mae ein staff ar gael i ddangos i chi sut i ddefnyddio ein hoffer chwilio.
- Ar-lein. Mae modd hefyd ddod o hyd i lawer o'n harchifau ar Hwb Archifau.
Rydym ar hyn o bryd yn cychwyn ar brosiect mawr i sicrhau bod disgrifiadau o'n harchifau ar gael ar yr Hwb Archifau. Mae rhywfaint o waith rhagarweiniol wedi'i wneud ond bydd catalogau pellach yn cael eu hychwanegu'n fuan.
Efallai eich bod eisoes wedi bwrw golwg ar wefannau megis Ancestry a Find My Past. Yma yn Archifau Sir Gaerfyrddin, mae gennym lawer o archifau a dogfennau eraill a all ychwanegu at eich gwybodaeth am eich cyndeidiau. Felly, p’un a ydych chi newydd ddechrau arni, neu’n chwilio am fanylion sy’n anodd dod o hyd iddynt, gallai ein hystod enfawr o ddogfennau fod yn ddelfrydol i chi.
Mae rhai o’r archifau a’r dogfennau sydd gennym yn yr archifau yn cynnwys:
- Cofnodion plwyf
- Cofnodion etholiadol
- Cofnodion o ystadau teuluol
- Cofnodion llys
- Cyfeiriaduron a chofnodion gan fusnesau lleol
- Cofnodion ysbyty, tloty a cheiswyr lloches
- Llythyrau personol a chyfrifon a
- Chofnodion ysgol
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cadw casgliad mawr o adnoddau hanes lleol a theuluol.
Os ydych chi'n credu eich bod chi'n byw mewn tŷ sydd â hanes, efallai yr hoffech chi wneud rhywfaint o ymchwil a darganfod ychydig mwy.
Mae’r ffynonellau sydd ar gael yn Archifau Sir Gaerfyrddin a allai helpu gyda’ch ymchwiliadau yn cynnwys:
- Gweithredoedd eiddo
- Mapiau a chynlluniau
- Cyfeiriaduron a Rhestrau Pleidleiswyr
- Ffurflenni Cyfrifiad
- Manylion am unrhyw werthiant
- Ffurflenni Treth Tir
- Llyfrau Trethi
- Cofnodion Prisio Tir Cyllid y Wlad 1911
- Cofnodion Profiant
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am eiddo a'i breswylwyr/perchnogion.
Os oes gennych ddogfennau neu ffotograffau o werth hanesyddol sy'n ymwneud â Sir Gaerfyrddin a'i phobl, a'ch bod yn dymuno iddynt gael eu cadw a'u bod ar gael yn gyhoeddus, efallai y gallwch eu rhoi i ni. Byddwn yn gweithio i gadw unrhyw archifau a sicrhau eu bod yn hygyrch am flynyddoedd i ddod.
Mae dogfennau o ddiddordeb yn cynnwys:
- Cofnodion sefydliadau Sir Gaerfyrddin megis busnesau, ysgolion, eglwysi ac elusennau
- Dogfennaeth yn ymwneud ag unigolyn neu deulu yn y sir, megis gohebiaeth, dyddiaduron, gweithredoedd, a chofnodion ystad
- Llyfrau, mapiau, pamffledi a defnyddiau printiedig eraill sy'n perthyn i'r sir
- Ffotograffau a chardiau post o Sir Gaerfyrddin
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein Polisi Datblygu Casgliadau.
Mae copi o’n ffurflen Cytundeb Adneuwr ynghyd â’n telerau ac amodau i’w gweld yma.