Cyfamod Lluoedd Arfog

I'r rhai sy'n amddiffyn ein cenedl, a hynny gyda balchder, anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, Cyfamod y Lluoedd Arfog yw ymrwymiad y genedl i chi. Mae'n addewid bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall - y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.