Yr Hen Farchnad Llandeilo
Mae "Hen Farchnad" Llandeilo yn ddatblygiad newydd sy’n darparu 1,249m2 o ofod cymysg ar gyfer swyddfeydd, busnes a digwyddiadau yng nghanol Llandeilo.
Mae gwaith ailddatblygu gwerth dros £4 miliwn wedi cael ei wneud ar yr adeilad sy’n llawn hanes drwy raglen gyllido "Trawsnewid Trefi" Llywodraeth Cymru a chafwyd cyllid hefyd gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Sir Caerfyrddin i greu safle amlddefnydd trawiadol ar gyfer busnesau a digwyddiadau.
Dewch i wybod mwy am stori'r prosiect adnewyddu £4m.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y busnesau sydd bellach wedi’u lleoli yn Hen Neuadd y Farchnad isod.