Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf hyd at fis Mawrth 2025. Mae’r Rhaglen yn gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i feithrin balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd.
Nod y Gronfa yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth buddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)
Mae prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gronfa.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Gaerfyrddin
Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad ychwanegol o £32m ychwanegol i helpu i gyflawni rhai o amcanion strategol allweddol Sir Gaerfyrddin. Bydd £6.6 miliwn pellach ar gael ar gyfer mentrau rhifedd oedolion trwy’r rhaglen Lluosi.
Bydd y Gronfa yn cael ei defnyddio i ddarparu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol, cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol yn ogystal â chefnogi adferiad canol ein trefi.

Cyfleoedd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
Cronfa Cymunedau Cynaliadwy
Cronfa Arloesi Gwledig
Datblygu Lle
Cefnogi busnesau lleol
Gweld sut y bydd cyllid yn cael ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin.
Linciai a dogfennau defnyddiol
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws
- Diffiniadau o Allbynnau a Chanlyniadau
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol
- Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Gaerfyrddin
- Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol
- Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin
- Archwilio'r Rhagolygon Arloesi ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar Gyfer De Orllewin Cymru

Bwriad Cronfa Arloesi Gwledig Sir Gaerfyrddin yw cael pobl, busnesau a chymunedau lleol sy'n ymwneud â darparu atebion cynaliadwy ac arloesol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu ardaloedd gwledig.
Mae'r gronfa refeniw hon yn rhoi cyfle i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau neu'n gweithio gyda chymunedau gwledig dreialu ffyrdd newydd o weithio neu syniadau sy'n mynd i'r afael â materion gwledig sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol a nodwyd.
Dim ond sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau mewn wardiau gwledig sy'n gymwys i wneud cais. Gallwch gadarnhau a yw eich ardal yn gymwys ar tudalen Ardaloedd Cymwys.
Gweithgaredd cymwys
- Hwyluso - cymorth i sefydliadau a grwpiau i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a'u harbenigedd eu hunain.
- Prosiectau Peilot – gweithgareddau ar raddfa fach ac am amser cyfyngedig (heb fod yn fwy na 12 mis) gyda'r nod o brofi cysyniad.
- Ymchwil – costau refeniw ar gyfer cyfuniad o gostau amser staff ac ymgynghoriaeth i ymgymryd â'r ymchwil gefndirol ar gyfer problem neu fater penodol.
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol Cyfansoddiadol.
- Elusennau Cofrestredig.
- Sefydliadau di-elw.
- Mentrau cymdeithasol.
- Gall canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol wneud cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y corff rhiant ond mae'n rhaid iddynt gael eu Cyfrif Banc lleol eu hunain.
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais am brosiectau cymunedol sy'n ychwanegol at gyfrifoldebau statudol arferol a fydd o fudd i'r gymuned.
- Cyrff Sector Cyhoeddus.
- Sefydliadau addysg.
Beth sydd ar gael?
- Uchafswm o £45k
- Uchafswm cyfnod cyflawni o 12 mis.
Pecyn Cais
- Galwad 1 - Dyddiad Cau: 29/03/2023 - Cyllid ar gael: £250k AR GAU
- Galwad 2 - Dyddiad Cau: 26/04/2023 - Cyllid ar gael: £250k AR GAU
- Galwad 3 - Dyddiad Cau: 29/09/2023 - Cyllid ar gael: Dibynnol ar cyfanswm cyllid sydd yn weddill
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at RDPSirGar@sirgar.gov.uk

Cyfanswm y gronfa: £2m
Y grant leiaf: £10k
Y grant mwyaf: £250k
Nod y gronfa:
Nod y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy yw darparu'r cymorth angenrheidiol i helpu i gryfhau gwead cymdeithasol cymunedau, gan feithrin balchder bro yn ogystal â sicrhau budd economaidd uniongyrchol a/neu anuniongyrchol.
Bydd y prosiect yn darparu cymorth ariannol trwy gyflawni cynllun grant gwerth £2m a fydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw.
Bydd y grant yn canolbwyntio ar y themâu canlynol sydd wedi'u nodi fel blaenoriaeth fel rhan o Gynllun Buddsoddi Strategol y Sir.
- Trechu Tlodi
- Economi Gylchol
- Llesiant / Hamdden
- Mynediad at Wasanaethau
- Yr Amgylchedd a Gwyrdd
- Twristiaeth, Diwylliant / Treftadaeth
- Ymgysylltu Cymunedol
Bydd cyllid cyfalaf a refeniw hyd at uchafswm o £250,000 ar gael.
Prosiectau cymwys
Dyma enghreifftiau o'r math o weithgareddau cymwys y gellir eu hystyried ar gyfer y cyllid:
- Seilwaith cymunedol a chymdogaeth newydd, neu welliannau i seilwaith presennol, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol.
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol.
- Cymorth ar gyfer gwella teithio llesol a phrosiectau seilwaith trafnidiaeth gwyrdd eraill ar raddfa fach.
- Datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i chrwydro.
- Gwirfoddoli a/neu weithredu cymdeithasol sy'n cael effaith.
- Cyfleusterau chwaraeon lleol.
- Buddsoddi mewn meithrin gallu a chymorth seilwaith i grwpiau cymunedol.
- Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys fesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.
- Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.
- Buddsoddi a chymorth i seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol.
Sefydliadau Cymwys

- Elusennau cofrestredig.
- Mudiadau di-elw.

- Cyrff Cyhoeddus.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Cymunedau Cynaliadwy – cyfanswm y gronfa - £2,000,000
Galwad 1af am geisiadau - cyllideb wedi'i dyrannu o £1,000,000
Yn agor 1 Mawrth, 2023 - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 29 Mawrth, 2023
2il alwad am geisiadau – cyllideb wedi'i dyrannu o £750,000
Yn agor 1 Ebrill, 2023 - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 26 Ebrill, 2023
3ydd galwad am geisiadau – cyllideb wedi'i dyrannu o £250,000
Yn agor 1 Mai - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 29 Medi, 2023
Sylwch - mae gan rownd 3 gyllideb gyfyngedig ar gael.
Pecyn Cais
Am ceisiadau rhwng £10,000 a £50,000
Am ceisiadau rhwng £50,000 a £250,000
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at Biwro@sirgar.gov.uk

Cefnogi Busnesau Lleol
Mae'r angor Cefnogi Busnesau Lleol yn cynnwys tair elfen allweddol –
Grantiau cychwyn busnes a thyfu busnes
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Grant Tyfu ac Adfer Busnes Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.
- Grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.
- Gellir ystyried grantiau o hyd at £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau sy'n dangos yn glir brosiectau arloesi, Ymchwil a Datblygu a/neu ddiogelu at y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r strategaeth arloesi lleol.
- Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £5,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, a/neu £5000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei diogelu, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn (CALL) er mwyn cael mynediad at y grant.
Gwneud cais am y grant cychwyn busnes
Gwneud cais am y grant tyfu ac adfer busnes
Cronfa Datblygu Eiddo
Mae Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Gaerfyrddin yn gallu rhoi cymorth ariannol i ddatblygwyr tuag at godi adeiladau diwydiannol a masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hyd at £750,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymwys ar gyfradd ymyrryd o hyd at 45%.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn cynnig manteision pendant i'r economi leol o ran:
- Nifer ac ansawdd y swyddi a grëir/y darperir ar eu cyfer
- Yr arwynebedd llawr a grëir
- Maint y tir a ddatblygir
- Nifer y BACHau y darperir ar eu cyfer
- Effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg
- Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro.
Nod y cyllid yw talu'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel.
Gwneud Cais am y Cronfa Datblygu Eiddo
Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, yn ogystal â bod yn garbon sero net erbyn 2030, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin. Bydd y Gronfa yn gynllun grant trydydd parti, a fydd yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes.
Nod y gronfa yw helpu busnesau lleol i fod yn gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn, a rhoi cymorth iddynt dyfu a ffynnu a'u helpu ar eu taith tuag at ddod yn garbon sero net.
- Grantiau rhwng £1,000 (lleiafswm) a £25,000 (uchafswm) ar gael tuag at gost y system ynni adnewyddadwy
- Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar ddim mwy na 50% o'r costau cymwys

Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi
Ariennir Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn targedu eiddo gwag y tu mewn i ffiniau llinellau coch penodedig yn nhrefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Bydd y cyllid ar gael i berchnogion / lesddeiliaid (prydles 7 mlynedd o leiaf) a bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag ar y llawr gwaelod yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol unwaith eto. Ni fydd gwaith hapfasnachol yn cael ei gefnogi.
Yr uchafswm a gaiff ei ddyfarnu fydd £30,000 fesul cais ar gyfradd ymyrryd o 70%.
Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno gan landlord sy'n bwriadu gosod yr eiddo, cyn cyflwyno cais llawn bydd angen i denant cyn gosod / terfynol fod yn ei le.
Gwneud cais am y Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi
Cronfa Ddigwyddiadau
Gan weithio gyda'r Ardaloedd Gwella Busnes a'r Cynghorau Tref yng nghanol ein prif drefi bydd cyllid ar gael i gefnogi digwyddiadau i wella'r hyn sy'n cael ei gynnal eisoes a threialu digwyddiadau newydd yng nghanol y prif drefi, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Yr uchafswm a gaiff ei ddyfarnu fydd £4,000 fesul digwyddiad yn seiliedig ar gyfradd ymyrryd o 70%.
Diben y gronfa yw cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y trefi a gwella'r canfyddiad o ddigwyddiadau.
Sut mae wneud cais
I drafod eich prosiect arfaethedig a gofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost at Trefi@sirgar.gov.uk
Ariennir y prosiectau hyn yn rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi ym meysydd cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk.