Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
1. Cyflwyniad
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, yn ogystal â dod yn net ddi-garbon erbyn garbon niwtral erbyn 2030, mae Cyngor Sir Gâr yn darparu Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gâr. Bydd y Gronfa yn gynllun grant trydydd parti, a fydd yn rhoi cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes.
Nod y gronfa yw cefnogi busnesau lleol i fod yn gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn, er mwyn rhoi cymorth iddynt dyfu a ffynnu tra'n eu helpu ar eu taith net ddi-garbon.