Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
3. Cymhwysedd
Mae Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin ond ar gael i fusnesau presennol neu newydd yn y sectorau cymwys, sydd yn Sir Gaerfyrddin neu'n bwriadu symud yno.
Yn bennaf, mae'r cymorth ar gyfer busnesau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys mentrau cymdeithasol a fydd yn gwasanaethu'r sectorau twf a sylfaen canlynol, neu'n gweithredu ynddynt:
Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu
Adeiladu
Y Diwydiannau Creadigol
Ynni a'r Amgylchedd
Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol
Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
Gwyddorau Bywyd
Bwyd a Diod
Twristiaeth
Manwerthu
Gofal
Fodd bynnag, nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: -
Cynhyrchu amaethyddol sylfaenol
Coedwigaeth,
Dyframaethu
Pysgota
Gwasanaethau statudol, e.e. addysg a gofal iechyd sylfaenol.
Deunydd gwleidyddol
I hybu unrhyw safbwyntiau\ credoau crefyddol, seciwlar a gwleidyddol
Gamblo
Pornograffi
I gynnig unrhyw wasanaethau rhywiol
Unrhyw weithgaredd anghyfreithlon, neu\a unrhyw weithgaredd y byddai’r cyngor yn rhagweld y byddai’n codi gwarth ar yr awdurdod neu\a Llywodraeth y DU.
Fodd bynnag bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos, gan ddibynnu ar eu cyfraniad a'u gwerth posibl i'r economi leol a'u hymrwymiad i ddatgarboneiddio.
Rhaid i chi naill ai:
Fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad, neu
Fod yn dal prydles gydag o leiaf saith mlynedd yn weddill ar ôl dyddiad talu terfynol y grant. Bydd angen i chi gael cydsyniad ysgrifenedig eich landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Nodwch, os yw'r ymgeisydd yn Gwmni Cyfyngedig, rhaid i berchnogaeth y rhydd-ddaliad neu'r lesddaliad fod yn enw'r Cwmni Cyfyngedig
Mae'n rhaid cofrestru'r safle busnes ar gofrestr Trethi Annomestig Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn gwneud cais.
Ni allwch wneud cais am gyllid i gefnogi gwaith yr ydych eisoes wedi'i ddechrau. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gynnar i drafod unrhyw gynigion.
Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau o bob maint sy'n bwriadu rhoi eu cynlluniau Addewid Twf Gwyrdd ar waith.
Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant a'i hawlio erbyn 30 Tachwedd 2024. Bydd y busnesau a chanlyniadau'r cynllun ariannu yn cael eu monitro a bydd tystiolaeth yn ofynnol. Gallai methu â chael y canlyniadau a ddisgwylir arwain at dynnu arian grant yn ôl.
Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i fonitro a chadw tystiolaeth ar gyfer blynyddoedd 1, 3 a 5 ar ôl derbyn cais am grant. Rhaid i ddarlleniadau mesuryddion cynhyrchu ynni adnewyddadwy gael eu nodi yn flynyddol gan yr ymgeisydd a'u darparu fel rhan o'r broses fonitro hon.