Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

11. Adennill cronfeydd grant

Bydd y cyllid yn cael ei gadw'n ôl a/neu, o ran taliad sydd wedi cael ei wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu'r cyllid naill ai'n llawn neu'n rhannol, gan gynnwys:

a) os oes gormod o gyllid wedi'i dalu

b) yn ystod ei oes economaidd, os yw'r prosiect yn newid yn sylweddol a'i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion gwahanol i'r rheiny a nodwyd yn y cais, neu, bod y perchennog yn newid ac nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei hysbysu am hynny.

Oes economaidd yw'r cyfnod hyd at bum mlynedd o ddyddiad y taliad grant terfynol a bydd angen ad-dalu'r cyllid fel a ganlyn:


Dyddiad gwaredu'r ased(au) Y swm sydd i'w ad-dalu
O fewn 1 flwyddyn Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
O fewn 2 flynedd Ad-dalu 80% o'r cyllid
O fewn 3 blynedd Ad-dalu 60% o'r cyllid
O fewn 4 blynedd Ad-dalu 40% o'r cyllid
O fewn 5 mlynedd Ad-dalu 20% o'r cyllid
Ar ôl 5 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu

Yr uchod yw'r isafswm y mae'n rhaid ei ad-dalu.

Mae'n rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar orchymyn os:
• os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn perthynas â'r cais
• os yw'r ymgeisydd wedi torri amod uchod
• os nad yw'r asedau a'r eiddo (os yn berthnasol) yn cael ei adfer yn llawn cyn pen 12 mis ar ôl unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golled neu ddifrod i'r eiddo