Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

10. Yn dilyn cwblhau- Telerau ac Amodau

Dylid nodi mai grant disgresiwn yw Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd y grant yn cael ei adennill os bydd y busnes yn gorffen masnachu, yn symud neu'n gwerthu'r eiddo o fewn 5 mlynedd ar ôl derbyn y grant.
Ar gyfer eiddo a godwyd neu a wellwyd yn rhan o gynllun grant a weinyddwyd gan CSC, bydd yr Awdurdod yn ceisio cofrestru buddiant yn yr eiddo a ariannwyd trwy grant gyda’r Gofrestrfa Tir trwy Gyfyngiad neu Bridiant Cyfreithiol fel a ganlyn:
▪ Dylid gosod cyfyngiadau gyda’r Gofrestrfa Tir ar gyfer prosiectau neu gynlluniau sy’n derbyn grantiau yn uniongyrchol gan neu drwy’r awdurdod o £25,000 a llai ar gyfer y cyfnod sy’n berthnasol i’r rhaglen ariannu y telir y grant ar ei chyfer.
Bydd y broses hon yn rhybuddio’r Awdurdod am unrhyw newid ym mherchnogaeth yr eiddo ac unrhyw effaith bosib ar y telerau ac amodau a bennwyd wrth ddyfarnu’r grant. Bydd y sawl sy’n derbyn y grant yn gyfrifol am gymryd camau i godi unrhyw Gyfyngiad neu Bridiant Cyfreithiol ac unrhyw gostau sydd ynghlwm â’r broses, ar ddiwedd y cyfnod.

Argymhellir yn gryf fod unrhyw nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu drwy ddefnyddio cyfrif banc y busnes.

Mae grantiau yn cael eu talu'n ôl-weithredol, felly pe bai'r cais yn llwyddiannus, mae'r arian grant yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbyn neu gael tystiolaeth o brynu a thalu h.y., datganiadau banc gwreiddiol neu ddatganiadau ar-lein wedi'u hargraffu ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant drwy lenwi'r Hysbysiad ynghylch Cymeradwyo a'r Telerau a'r Amodau cyn pen 30 mis ar ôl ei dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant a'i hawlio erbyn 30 Tachwedd 2024.

Bydd y gwaith o fonitro'r busnes a'r canlyniadau ariannu yn digwydd ar ôl talu'r grant yn derfynol a bydd angen tystiolaeth o'r canlyniadau erbyn 30 Tachwedd 2024. Gallai methu â chael y canlyniadau a ddisgwylir arwain at dynnu arian grant yn ôl.
Allbynnau ar gyfer y cynllun efallai y gofynnir i chi gyfrannu atynt;

Allbwn Canlyniad
Nifer y busnesau sy'n derbyn cymorth ariannol Swyddi a grëwyd
Nifer y busnesau sy'n derbyn cymorth anariannol Diogelu swyddi
Nifer y busnesau'n derbyn grantiau Nifer y busnesau newydd sy’n cael eu creu
Nifer y seilwaith ynni carbon isel neu ddi-garbon sydd wedi'u gosod Nifer y safleoedd gyda gwell cysylltedd digidol
Faint o ynni carbon isel neu ddi-garbon sydd wedi'u gosod Nifer y busnesau'n sy'n mabwysiadu o’r newydd y technolegau neu’r prosesau
Nifer y cynlluniau datgarboneiddio sydd wedi'u datblygu Gostyngiad yn nwyon tŷ gwydr mewn allyriadau (tunelli)

 

At ddibenion y grant bydd monitro'r cais a'r dystiolaeth yn digwydd gyda rhybudd ymlaen llaw yn ystod blwyddyn 1, 3 a 5 o ddyddiad dyfarnu'r grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo cyn pen y cyfnod a nodwyd yn y llythyr cynnig grant, bydd y cynnig grant yn darfod ohono'i hun. Rhaid gwneud cais am unrhyw newid o ran y Telerau a'r Amodau a amlinellir yn y Llythyr Cymeradwyo a chytuno arno.

Ni ystyrir talu grant am eitemau a brynir ag arian parod.

Ni fydd eitemau a brynir trwy brydlesu, hurbrynu, prydlesi cyllid/trefniadau credyd estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys. Rhaid i'r cerdyn credyd berthyn i'r busnes sy'n gwneud y cais a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu copi o'r datganiad cerdyn credyd fel rhan o'r broses hawlio.

Ni chaniateir cynnig na thalu'r grant os yw'r busnes neu'r ymgeisydd mewn dyled i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cynllun.

Gall busnesau gyflwyno mwy nag un cais i Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin, ond cyfanswm uchaf y grant a ganiateir ar gyfer pob busnes yw £25,000.

Mae tîm Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin yn cadw'r hawl i roi cyhoeddusrwydd i unrhyw gymorth grant.