Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf mewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

Systemau Pŵer
Tyrbin gwynt sengl ar raddfa fach
Paneli solar ffotofoltäig (wedi'u gosod ar y to/ar y ddaear)
Batri solar ffotofoltäig*
System storio batri sy'n gysylltiedig â'r grid (lle mae'r tariff gyda chyflenwr ynni adnewyddadwy)*
Hydro-drydan

Systemau Gwresogi
Pwmp Gwres o'r Awyr (Aer i ddŵr ac aer i aer)
Pwmp Gwres o'r Ddaear (fertigol, llorweddol, croeslin a rheiddiol)
Paneli solar thermol (wedi'u gosod ar y to/ar y ddaear)

Systemau sy'n cyfuno gwres a phŵer
Lle defnyddir tanwydd adnewyddadwy (e.e. Biomas) fel y ffynhonnell danwydd

  • Rhaid i osodwyr gael eu hachredu gan MCS (Cynllun Ardystio Microgynhyrchu).
  • Rhaid i unrhyw offer o dan 45 kW gael ardystiad MCS
  • Ar gyfer systemau wedi'u gosod ar do, dylai'r gosodwyr fod yn hunan-ardystiedig i gynnal arfarniadau strwythurol a chyfrifiadau ar gyfer strwythur y to. Os nad ydynt yn hunan-ardystiedig i wneud hyn, yna bydd angen tystysgrif rheoliadau adeiladu.
  • Gall eitemau cyfalaf ategol sy'n gallu helpu tuag at effeithlonrwydd ynni'r safle busnes gael eu cynnwys hefyd (e.e. goleuadau ynni isel, deunydd insiwleiddio ac ati) a byddant yn cael eu hasesu fesul achos. Dim ond os ydynt yn ategol i un o'r systemau a restrir uchod y gellir cynnwys y rhain.

* Oherwydd bod prinder gosodwyr batri sydd wedi harchredu gan MCS, rhaid i fatris gael eu gosod gan gontractwr sydd wedi'i gofrestru o dan Gynllun Personau Cymwys perthnasol (eg. NICEIC)