Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
7. Rheolau Caffael
Hyd at £4,999
Rhaid cael a chadw o leiaf 1 Dyfynbris ysgrifenedig
Mae'n rhaid cael y gwerth gorau am arian ac mae'n rhaid cymryd gofal rhesymol i gael nwyddau, gwaith neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol. Rhaid cadw cofnod dogfennol i gefnogi'r penderfyniad at ddibenion archwilio.
Gofynnir i ymgeiswyr 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, edrychwch ar y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ceisio dyfynbrisiau o'r fath.
£5,000 - £24,999
Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a chael eu gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'.
Mae'n rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig.
Gofynnir i ymgeiswyr 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, edrychwch ar y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ceisio dyfynbrisiau o'r fath.
£25,000 - £74,999
Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid fod y dyfynbrisiau'n seiliedig ar:
- yr un fanyleb
- yr un meini prawf gwerthuso a'u gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso
- yr un dyddiad cau.
Mae'n rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig at ddibenion archwilio.
**Os na ddaw mwy nag un dyfynbris i law mae'n rhaid ichi gysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Os yw'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un dyfynbris, gall fod yn ofynnol ichi hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru - https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru