Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

6. Proses Ymgeisio ac Asesu

Ystyrir yr holl geisiadau sydd wedi'u cwblhau ar sail y cyntaf i’r felin nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y canlyniadau a nodir yn ogystal â chryfder eu haddewid twf gwyrdd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy drwy ei raglenni cyllido. Fel rhan o'r cais, gofynnir ichi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i gynllun datblygu cynaliadwy a chofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru). I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Gareth.Davies@businesswales.org.uk

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd yr eitemau canlynol:

  • Ffurflen Gais gyflawn
  • Dyfynbrisiau yn unol â rheolau caffael trydydd parti
  • Cyfrifon am o leiaf 2 flynedd llawn o'r gorffennol a chyfrifon rheoli os ydynt ar gael. Os nad yw'r busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/ neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio
  • Tystiolaeth o arian cyfatebol
  • Safonau'r Gymraeg
  • Polisi Amgylcheddol – Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd
  • Addewid Twf Gwyrdd wedi'i gwblhau
  • Prawf o berchnogaeth rydd-ddaliadol neu lesddaliadol yr eiddo
  • Unrhyw ganiatâd statudol perthnasol (e.e. cynllunio) Sylwer, os nad oes angen y rhain, yna mae angen cadarnhad ysgrifenedig o hyn gan yr Awdurdod perthnasol

Dylid nodi mai grant disgresiwn yw Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mi fydd ceisiadau am grantiau dros £10,000 yn cael ei allgyfeirio i'r aelod cabinet i gadarnhau