Grant Tyfu Busnes

1. Cyflwyniad

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Grant Twf Busnes Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin

Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a buddsoddwyr o'r tu allan i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Gan arwain at greu neu ddiogelu swyddi ledled y Sir, felly gwella'r economi leol. Er y rhoddir blaenoriaeth i greu swyddi newydd, cydnabyddir bod diogelu swyddi o dan yr hinsawdd economaidd bresennol hefyd yn hynod o bwysig a bydd yn cael ei ystyried yn unol ag achos.

Bydd y grant ar agor ar gyfer gwneud cais rhwng mis Mawrth 2023 a mis Medi 2024 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn

Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, a fydd yn cynnwys cefnogaeth at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu a/neu eu diogelu oherwydd y cymorth ariannol.

Mae manylion y canllawiau ymgeisio ar ffurf drafft a gallent gael eu newid.