Grant Tyfu Busnes

3. Cymhwysedd

I wneud cais am y grant hwn, rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol. Rhaid i chi fod:

  • yn fusnes sydd wedi dechrau masnachu. Os nad ydych wedi dechrau masnachu gallech fod yn gymwys ar gyfer y grant cychwyn busnes.
  • rhaid bod eich busnes wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin.
  • yn gallu creu o leiaf un swydd newydd neu ddiogelu un swydd bresennol sydd mewn perygl.

a rhaid i'ch busnes weithredu neu wasanaethu un o'r sectorau canlynol:

  • Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu
  • Adeiladu
  • Y Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Adwerthu
  • Gofal

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos, os gallwch ddangos eich cyfraniad a'r gwerth posibl i'r economi leol. Er enghraifft: creu swyddi yng nghanol trefi'r sir, ardaloedd gwledig, cysylltiad â phrosiectau strategol allweddol, fel Yr Egin a Phentre Awel (Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli).

Ni allwch wneud cais os daw eich busnes o dan y sectorau canlynol:

  • cynhyrchu amaethyddol sylfaenol
  • coedwigaeth
  • dyframaethu
  • pysgota
  • gwasanaethau statudol, e.e. iechyd ac addysg