Grantiau ar gael rhwng £1,000.00 a £50,000.00 gros.
Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £7,500.00 fesul swydd a grëwyd, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd er mwyn cael mynediad at y grant)
Bydd swyddi a grëwyd a fydd yn denu cyflog sy'n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru (£35,796.00 ar hyn o bryd), yn denu dyfarniad grant uwch
Y dyfarniad grant lleiaf yw £1,000.00 (yn seiliedig ar o leiaf un swydd newydd yn cael ei greu) a'r dyfarniad grant mwyaf fesul busnes yw £50,000.
Mae dwy swydd ran-amser yn cael eu hystyried fel un cyfwerth ag llawn amser a dylai fod yn seiliedig ar oriau llawn amser safonol y cyflogwr. Os ydych yn creu swydd ran-amser (lleiafswm 16 awr yr wythnos), fe delir y grant ar sail pro rata, h.y. uchafswm o £3,750 ar gyfer swydd ran-amser.
Ni allwn ystyried swyddi is-gontractio na swyddi a grëwyd o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).
Rhaid hawlio pob swydd a grëwyd fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu yr 28 Chwefror 2027, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf.
Rydym yn annog bod pob swydd sy'n cael eu creu gyda chefnogaeth y grant i gael y Cyflog Byw Go Iawn.
Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall, megis Cronfa Menter Sir Gaerfyrddin neu grantiau Gwella Canol Trefi, ni ellir dyblygu'r gwariant ac allbynnau.
Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr feddu ar y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler yn y telerau ac amodau o fewn y ddogfen hon)
Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn yr 31 Ionawr 2027 y fan bellaf pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Er mwyn cefnogi llif arian, bydd y tîm grantiau yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae'n rhaid gofyn am gytundeb ymlaen llaw gan y Cyngor.