Grant Tyfu Busnes
Yn yr adran hon
12. Adfachu arian grant
Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i'r graddau y mae taliad wedi'i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys:
- bu gordaliad cyllid
- Yn ystod ei oes economaidd, mae’r prosiect yn mynd trwy newid sylweddol a ddiffinnir fel un sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw ‘r rhai a nodir yn y cais, neu, yn cael newid perchennog heb hysbysu Cyngor Sir Caerfyrddin.
Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad talu'r grant terfynol a bydd angen ad-dalu cyllid fel a ganlyn:
Dyddiad gwaredu asedau (au) |
Swm i’w ad-dalu |
O fewn 1 blwyddyn |
Ad-dalu yn llawn |
O fewn 2 flynedd |
80% or gronfa i’w ad-dalu |
O fewn 3 blynedd |
60% or gronfa i’w ad-dalu |
O fewn 4 blynedd |
40% or gronfa i’w ad-dalu |
O fewn 5 mlynedd |
20% or gronfa i’w ad-dalu |
Ar ôl 5 mlynedd |
Dim byd i’w ad-dalu |
Yr uchod yw'r gofynion lleiafswm ad-dalu
Os na chaiff y swyddi eu creu / eu diogelu, yna mae gan y Cyngor Sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.
Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar alw os: -
- canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gam gynrychiolaeth mewn cysylltiad â'r cais;
- mae'r ymgeisydd wedi torri'r ddarpariaeth amod uchod;
- nid yw'r eiddo wedi'i ail-osod yn llawn o fewn 12 mis o unrhyw ddigwyddiad sy'n achosi colled neu difrod i’r eiddo.