Grant Tyfu Busnes
Yn yr adran hon
- 7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
- 8. Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau
- 9. Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- 10. Polisi Amgylcheddol
- 11. Rheoli Cymorthdaliadau
- 13. Sut i ymgeisio
7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
Rhaid i chi greu a/neu ddiogelu o leiaf un swydd i wneud cais am y grant. I gael yr uchafswm cyllid mae'n rhaid i chi greu o leiaf dwy swydd amser llawn neu ddiogelu 10 swydd sydd mewn perygl.
Gall y cais fod yn cynnwys cymysgedd o greu swyddi newydd a diogelu swyddi presennol sydd mewn perygl.
Ystyr amser llawn yw o leiaf 30 awr yr wythnos. Ystyrir bod dwy swydd ran-amser yn gyfwerth ag un swydd amser llawn. Os bydd eich busnes yn creu un swydd ran-amser, bydd y grant yn cael ei dalu ar sail pro rata h.y. 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £2500 fesul swydd ran-amser a gaiff ei chreu pa un bynnag yw'r swm is.
Rhaid creu'r swyddi cyn pen 12 mis ar ôl y taliad grant terfynol. Rhaid i'r swyddi a gaiff eu diogelu gael eu cynnal am 12 mis ar ôl y taliad grant terfynol. Yn eich cais, gofynnir i chi pryd y byddwch yn rhagweld y bydd y swyddi hyn yn cael eu creu. Byddwn yn cysylltu â chi ar y dyddiadau hyn i weld a ydych yn gweithio yn unol â'r amserlen. Byddwn hefyd yn monitro eich busnes yn ffurfiol ac yn gofyn am dystiolaeth ym mlwyddyn 1, 3 a 5.
Os nad ydych yn creu nac yn diogelu nifer y swyddi a amlinellir yn eich cais, mae gennym yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.