Grant Tyfu Busnes

6. Offer ail-law

Gallwch brynu offer ail-law; fodd bynnag, rhaid i chi gael:

  • datganiad gan werthwr yr offer sy'n nodi ei darddiad sydd hefyd yn cadarnhau nad yw wedi'i brynu yn ystod y saith mlynedd blaenorol gyda chymorth arian grant cenedlaethol neu Ewropeaidd. Bydd angen i chi ddarparu hwn pan fyddwch yn gwneud eich cais.

Rhaid i chi hefyd sicrhau'r canlynol:

  • rhaid i bris yr offer beidio â bod yn fwy na'u gwerth ar y farchnad a rhaid iddo fod yn llai na chost offer newydd tebyg
  • bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio ac yn bodloni unrhyw safonau iechyd a diogelwch.