Grant Tyfu Busnes
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 6. Offer ail-law
- 7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Mae gwariant anghymwys yn cynnwys:
- Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,
- Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau
- Gwariant marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau, a deunyddiau hyrwyddo untro fel cardiau busnes, deunydd ysgrifennu â phennawd, ac ati
- Gwelliant adeiladau / mân waith adeiladu.
- Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno, gan gynnwys lloriau a charpedi cyffredinol.
- Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol.
- Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant.
- Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.
- Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu, ayyb.
- Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.
- Astudiaethau dichonoldeb
- Eitemau a brynwyd gan werthwyr anfasnachol neu breifat
- Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes/ysgrifennu CaC ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau
Amodau Cyffredinol:
- Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW. Os nad yw’r ymgeisydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ar y pwynt gwneud cais ond yn anelu at gael ei gofrestru o fewn y 12 mis dilynol, bydd y grant yn daladwy ar sail y costau NET (gan y bydd y busnes yn gallu hawlio TAW yn ôl-weithredol)
- Ni ddylid gwneud unrhyw wariant cyn cymeradwyo grant gan na ellir dyfarnu grantiau yn ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu e.e. blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.
- Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
- Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
- Ni fydd pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion yn cael eu hystyried, e.e. Facebook Marketplace, ayyb. Dim ond pryniannau gan werthwyr / cyflenwyr masnachol yr ydym yn eu hystyried
- Mae eitemau a brynir gyda chardiau credyd yn gymwys. ** Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio cerdyn credyd cwmni ar gyfer pryniannau. Rydym yn annog masnachwyr unigol a phartneriaethau i ddefnyddio cardiau bancio/credyd busnes.
Ni fydd grantiau’n daladwy pan fo ardrethi busnes a/neu dreth y cyngor yr ymgeisydd mewn ôl-ddyledion.
