Grant cychwyn busnes

1. Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau ledled y sir ac o ganlyniad wedi sicrhau cyllid i ddarparu Grant Twf Busnes Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Twf Lleol.

 

Nod y pecyn grant yw cryfhau gweithgaredd entrepreneuraidd lleol a chefnogi Mentrau Bach a Chanolig eu Maint (Small and Medium Sized Enterprises (SMEs)) ar bob cam o'u datblygiad a dilyniant i ddechrau, cynnal a thyfu.     

 

Bydd y grant Cychwyn Busnes yn annog a chefnogi creu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi newydd, a thrwy hynny wella'r economi leol.

 

Bydd y grant ar agor ar gyfer gwneud cais rhwng  y 11eg o Fai 2026 a’r 31ain o Hydref 2026 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

 

Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, a fydd yn cynnwys cefnogaeth at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu oherwydd y cymorth ariannol.

 

Mae'r canllawiau'n dal i fod yn destun newid oherwydd eu bod yn ddogfen ddrafft ar hyn o bryd