Grant cychwyn busnes

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

·        Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,

·        Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau

·        Gwariant marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau, a deunyddiau hyrwyddo untro fel cardiau busnes, deunydd ysgrifennu â phennawd, ac ati

·        Gwelliant adeiladau / mân waith adeiladu.

·        Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno, gan gynnwys lloriau a charpedi cyffredinol.

·        Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol.

·        Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant.

·        Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.

·        Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu, ayyb.

·        Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.

·        Astudiaethau dichonoldeb

·        Eitemau a brynwyd gan werthwyr anfasnachol neu breifat

·        Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes/ysgrifennu CaC ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau

Amodau Cyffredinol:

 

·        Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW. Os nad yw’r ymgeisydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ar y pwynt gwneud cais ond yn anelu at gael ei gofrestru o fewn y 12 mis dilynol, bydd y grant yn daladwy ar sail y costau NET (gan y bydd y busnes yn gallu hawlio TAW yn ôl-weithredol)

·        Ni ddylid gwneud unrhyw wariant cyn cymeradwyo grant gan na ellir dyfarnu grantiau yn ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu e.e. blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.

·        Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.

·        Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

·        Ni fydd pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion yn cael eu hystyried, e.e. Facebook Marketplace, ayyb. Dim ond pryniannau gan werthwyr / cyflenwyr masnachol yr ydym yn eu hystyried

·        Mae eitemau a brynir gyda chardiau credyd yn gymwys. ** Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio cerdyn credyd cwmni ar gyfer pryniannau. Rydym yn annog masnachwyr unigol a phartneriaethau i ddefnyddio cardiau bancio/credyd busnes.

Ni fydd grantiau’n daladwy pan fo ardrethi busnes a/neu dreth y cyngor yr ymgeisydd mewn ôl-ddyledion.