Grant cychwyn busnes
Yn yr adran hon
- 8. Caffael
- 9. Safonau’r Gymraeg
- 10. Rheoli Cymhorthdal
- 11. Ar ôl Cwblhau - Y Telerau a'r Amodau
- 12. Adfachu arian grant
- 13. Sut i ymgeisio
11. Ar ôl Cwblhau - Y Telerau a'r Amodau
Dylid nodi mai grant disgresiwn yw Cronfa Ffyniant Gyffredin Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd y grant yn cael ei adennill os bydd y busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu, yn adleoli neu’n gwerthu’r tir/adeilad busnes o fewn 5 mlynedd i’r dyfarniad neu os na cheir creu busnes neu swyddi o fewn y cyfnod penodedig.
Mae'n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Mae'n cael ei annog i Unig Fasnachwyr a phartneriaethau bod yr holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio'r cyfrif banc busnes.
Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, felly mae'n rhaid i ymgeiswyr gael y modd i brynu'r eitem(au) yn llawn, ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Gâr.
Gan fod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant. Nid yw lluniau sgrin o drafodion unigol yn dderbyniol.
Rhaid gofyn i'r tîm grant am unrhyw wyriadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant cyn prynu. Gall methu â cheisio caniatâd olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.
Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant i gefnogi'r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad â'r safle.
Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant drwy lofnodi a dychwelyd Cytundeb y Gronfa Ffyniant Gyffredin Cynnig Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin o fewn 30 diwrnod ar ôl ei dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y Cytundeb y Gronfa neu 30 mis Medi 2024 pa un bynnag sydd y dyddiad cynharaf. Ni fydd estyniad yn cael ei roi ar gyfer cyflwyno'r hawliad.
Rhaid cyflawni'r swydd(i) a grëwyd a/neu a ddiogelwyd sy'n gysylltiedig â'r prosiectau / eu cynnal o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu mis Mawrth 2025 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.
Ar gyfer bob diben y grant, bydd yr hawliad a’r dystiolaeth yn cael eu monitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o ddyddiad dyfarnu’r grant.
Os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen cyn pen y cyfnod a nodwyd yng nghytundeb y gronfa, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig Gellir ymestyn cyfnod y cynnig grant, ar yr amod y gwneir cais ysgrifenedig Rhaid i unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau, fel y nodir yn y Cynnig Grant, gael ei ofyn a'i gytuno gan yr ymgeisydd, i'r tîm grant a'i awdurdodi gan y cyngor.
Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
Ni fydd eitemau a brynir trwy brydlesu, hurbrynu, prydlesi cyllid/trefniadau credyd estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i'r ymgeisydd ddangos bod y swm ar y bil cerdyn credyd sy'n gysylltiedig â'r eitem(au) yn y cais am grant wedi'i dalu'n llawn cyn hawlio grant.
** Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(wyr).
Ni fydd grant yn cael ei gynnig na'i dalu os bydd gan y busnes neu'r ymgeisydd ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun ac yn ei weithredu.