Grant cychwyn busnes

7. Ymgeisio ac Asesu

Bydd yr holl geisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn. Rhaid cyflwyno pob cais erbyn y dyddiad cau penodedig o bob panel misol. Ni chaiff unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw eu hasesu a'u cadarnhau gan y panel tan gyfarfod y mis canlynol.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y. 

  • Gwerth am arian / grant fesul swydd a grëwyd cymhareb a buddsoddiad yn y sector preifat a liferwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau twf cychwynnol a chynaliadwy.
  • Nifer y swyddi a grëwyd,
  • mabwysiadu gwasanaethau neu gynnyrch newydd,
  • cymryd rhan mewn marchnadoedd newydd,
  • mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd
  • Cynhyrchion newydd i'r farchnad

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn sero carbon net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni cyllido. Fel rhan o'r cais gofynnir ichi sut mae'ch busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac yn ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. (LINK i'w ychwanegu yma

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd yr eitemau canlynol:

  • Ffurflen Gais
  • Cynllun Busnes (Dylai'r cynllun busnes gynnwys adran ar sut mae'r busnes yn gweithredu arferion busnes cynaliadwy)
  • Rhagolygon 2 blynedd (llif arian a/neu elw a'r golled)
  • Safonau'r Gymraeg- gweler y canllawiau pellach isod
  • Polisi Amgylcheddol - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd

Dylid nodi mai grant disgresiwn yw Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Noder - Bydd angen ceisiadau fod mewn sefyllfa i gael i eu gwethgareddu cyn eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis ariannu cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo hynny'n berthnasol), ac ati cyn y bydd y tîm grant yn paratoi'r cais i'w ystyried yn y panel.