Grant cychwyn busnes
Yn yr adran hon
6. Offer ail-law
NI DDYLID DEFNYDDIO'R GRANT AR GYFER:
• Dibenion plaid wleidyddol
• Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol
• Gamblo
• Pornograffi
• Cynnig gwasanaethau rhywiol
• Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu
• Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau heb eu rheoleiddio ac ymledol, cynhyrchion a thriniaethau, modelu noethlymun neu lled-noethlymun canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwely haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêp, siopau tybaco, dylanwadu cyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi bywyd, tatŵ, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD ac arian cyfred digidol.
Mae costau prynu offer ail-law yn gymwys am grant o dan yr amodau canlynol:-
· Rhaid i werthwr yr offer lunio datganiad yn nodi o ble y daeth, a chadarnhau nad ydynt ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd flaenorol wedi cael eu prynu â chymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd;
· Rhaid i bris yr offer beidio â bod yn fwy na gwerth y farchnad a rhaid iddo fod yn llai na chost offer newydd tebyg, a
· Rhaid i'r offer fod â'r nodweddion technegol sy'n angenrheidiol i weithredu a rhaid i'r offer gydymffurfio â'r safonau sy'n arferol ac yn berthnasol, e.e. Iechyd a Diogelwch
· Ni fydd pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion yn cael eu hystyried, e.e. Facebook Marketplace, ayyb
