Grant cychwyn busnes

3. Cymhwysedd

Mae Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r  Gronfa Twf Lleol a'i ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac felly dim ond ar gael ar gyfer cais i fusnesau bach a chanolig (SMEs) newydd neu bresennol o fewn y sectorau cymwys sydd yn Sir Gaerfyrddin neu'n bwriadu ymsefydlu ynddi.

Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng y 11eg o Fai 2026 a’r 31ain o Hydref 2026 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau bach a chanolig presennol a fydd yn gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol neu'n eu gwasanaethu:

·        Deunyddiau uwch a Gweithgynhyrchu;

·        Adeiladu;

·        Diwydiannau Creadigol;

·        Ynni a'r Amgylchedd;

·        Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol;

·        Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu;

·        Gwyddorau Bywyd;

·        Bwyd a Diod;

·        Twristiaeth

·        Adwerthu

·        Gofal

Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan ddibynnu ar eu cyfraniadau a'u gwerth posibl i'r economi leol, e.e. creu swyddi yng nghanol trefi cynradd ac eilaidd y sir, ardaloedd gwledig, cyswllt â phrosiectau strategol allweddol, megis Yr Egin, Pentre Awel, Pendine, Llanelli YMCA, Neuadd Farchnad Llandeilo, Safle cyflogaeth strategol Dwyrain Cross Hands.

** Noder bod rhaid i geisiadau gan ddarparwyr llety hunanarlwyo gyda’g un uned yn unig greu swyddi newydd heblaw perchnogion y busnes o ganlyniad i'r cymorth grant.

Os gwneir ceisiadau gan darparwyr llety gydag unedau lluosog (3 neu’n fwy) neu sy'n cynnig gwasanaethau fel gwely a brecwast a/neu sy'n cynnig gweithgareddau fel rhan o'r pecyn twristiaeth, byddwn yn ystyried y swyddi newydd sy’n cael eu creu, gan gynnwys y perchnogion busnes. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried fesul achos

Nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: - cynhyrchu amaethyddol sylfaenol, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol, e.e., Iechyd sylfaenol ac addysg.

Ni allwn ystyried ceisiadau gan fentrau mawr a Chwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC).

Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau bach a chanolig o bob maint sy'n anelu at weithredu eu cynlluniau twf ac adferiad a rhaid iddynt arwain at greu a/neu ddiogelu swyddi. Felly, rhaid i ymgeiswyr egluro eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio.

 

Rhaid prynu a hawlio'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cynnig neu ddim hwyrach na’r 31ain o Ionawr 2027, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni roddir unrhyw estyniadau i gyflwyno hawliadau.

 

Rhaid creu'r busnes arfaethedig a’r swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu'r 28ain o Chwefror 2027 pa un bynnag fydd y cynharaf. Bydd y gwaith o fonitro'r busnes a'r swyddi a grëwyd yn digwydd a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau ymroddedig arwain at ad-dalu’r arian grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth ar 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn cais am grant.