Grant cychwyn busnes

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf o fewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

Costau Cymwys

Gwariant cyfalaf:

      Prynu offer newydd neu ail-law, e.e. peiriannau, offer arbenigol, ayyb. Noder y gallai offer gynnwys eitemau fel tryciau fforch godi, trinwyr telesgopig, cloddwyr, ayyb. Nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. **gweler y nodyn isod ynghylch prynu eitemau ail-law.

•      Gellir ystyried cerbydau masnachol arbenigol e.e. faniau oergell, faniau / tryciau at ddibenion arbenigol, gydag arwydd masnachol ac wedi'u gosod ar gyfer defnydd masnachol penodol fesul achos. Sylwer – ni ellir ystyried ysgrifennu arwyddion.

      Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e., llochesi, gazebos, ayyb. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y., caniatâd cynllunio, trwyddedau, ayyb.

      Caledwedd TG a Thelathrebu os yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect

      Gosodiadau a ffitiadau, dodrefn, ac offer swyddfa gyffredinol ayyb fel rhan o swyddfa newydd.

      Eitemau marchnata diriaethol fel stondinau arddangos ar gyfer arddangosfeydd, ‘pop-yp’ a baneri, arwyddion, dillad gwaith gwisgoedd wedi’u brandio, ac ati. Rhaid i'r rhain fod yn ddwyieithog i fod yn gymwys i gael cymorth grant

Gwariant refeniw arbenigol: (rhaid i'r costau hyn fod yn gysylltiedig â'r gwariant cyfalaf sy'n gysylltiedig â'r cais am grant) Ni fydd gwariant refeniw annibynnol fel y nodir isod yn gymwys.

      Hyfforddiant arbenigol / technegol (nid yw o reidrwydd wedi'i achredu a dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant) e.e. hyfforddiant ar ddefnyddio peiriannau, ayyb.

      Comisiynu / Gosod Peiriannau (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)

      Meddalwedd arbenigol (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)

      Taliadau sy'n gysylltiedig â chyflenwi unrhyw offer cyfalaf. Gwnewch yn siŵr bod y costau hyn wedi'u hamlygu yn y dyfynbrisiau (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)