Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Caerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2023

Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol i Ddatblygwyr ar gyfer adeiladu, ehangu neu adnewyddu adeiladau at ddefnydd diwydiannol / masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Sicrhawyd cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn rhoi manteision pendant i'r economi leol o ran

  • nifer ac ansawdd y swyddi y darperir ar eu cyfer
  • yr arwynebedd o ofod llawr a grëir
  • faint o dir a ddatblygir
  • nifer y busnesau bach a chanolig y darperir ar eu cyfer
  • effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg
  • nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu'n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro

Mi fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r prosiectau hynny sy'n gallu arddangos ei bod nhw'n medru cwbwlhau'r prosect erbyn 30ain o Dachwedd 2024

Y Cynnig

Nod y rhaglen yw cefnogi ymgeiswyr sydd angen cymorth ariannol i'w prosiectau fynd rhagddynt, h.y. pe na bai cyllid ar gael, ni fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo.
Mae'r cyllid ar gael i dalu'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel. Bydd y mwyafswm o gyllid a fydd yn cael ddyfarnu ar gyfer bob prosiect yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod a ni fydd yn fwy na £750,000 nac yn fwy na 45% o'r costiau cymwys. 

Ni ellir cael arian cyfatebol ar gyfer y grant hwn drwy gyllid cyhoeddus arall.

Penderfynir ar gymhwysedd fesul cais.

Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais

Nb: Mae manylion y canllawiau ymgeisio ar ffurf drafft a gallent gael eu newid

          canllawiau